Neidio i'r cynnwys

Geirlyfr Bywgraffiadol o Enwogion Cymru 1870/Aeddan Foeddog

Oddi ar Wicidestun
Aedd Mawr Geirlyfr Bywgraffiadol o Enwogion Cymru 1870

gan Isaac Foulkes

Ael-Gyfarch

AEDDAN FOEDDOG. Mab ydoedd i Caw ap Geraint, ac yr ydoedd yn ei flodeu yn nechreu'r chweched cant. Disgybl oedd i Dewi Sant, o anfarwol goffadwriaeth; ac o Fangor Dewi yr aeth of i'r Iwerddon. Yno gwnaed ef yn esgob Ferns, a thyma'r achlysur a barodd i awdurdodau eglwysig Menwy hawlio'r esgobaeth hono fel un a fu o dan nodded eu harchesgobaeth. Y mae Aeddan yn cael ei enwi yn dra gwahanol gan amryw ysgrifenwyr. Gelwir ef yn Nghofianau yr Iwerddon yn "Moedhog a Madog" a chan Giraldus, "Maidocus." Ond geilw John o Teignmouth of mewn un lle yn "Aidanus," ac mewn man arall yu "Aidus;" ond yn Nghofion Eglwys Ty Ddewi gelwir of yn "Moedok," yr hyn a argoela gryn swm o anian Wyddelig. Y mae Giraldus ddoniol yn adrodd y chwedl a ganlyn am dano:— Dywed i Aeddun fyned unwaith a haid o wenyn drosodd i'r Iwerddon, ac mai hon oedd yr haid gyntaf a welwyd yn yr Ynys Werdd, ac na welwyd fyth ar ol y digwyddiad ddim un wenynen yn agos at Henfenyw. Y mae yn Mhenfro goffhäon am dano oblegyd efo ydyw Sant gwarchodol Llanhuadain, nen Lanhawden, yn y wlad hono. Dywedir hefyd fod eglwysydd Nolton a West Haroldstone wedi eu cyflwyno iddo o dan yr enw Madog. Cedwid ei wylabsant Ionawr 31.

Nodiadau

[golygu]