Neidio i'r cynnwys

Geirlyfr Bywgraffiadol o Enwogion Cymru 1870/Ael-Gyfarch

Oddi ar Wicidestun
Aeddan Foeddog Geirlyfr Bywgraffiadol o Enwogion Cymru 1870

gan Isaac Foulkes

Ael-Haiarn

AEL-GYFARCH Un o feibion Helyg ab Glanawg, yr hwn y tores y mor dros ei etifeddiaeth oedd hwn. Crybwyllir hefyd fol Helyg a'i feibion ar ol yr anffawd hon wedi troi at bethau crefydd o lwyrfryd calon, ac iddynt ddysgu ffydd Crist gydag eiddgarwch dihefelydd. Prin y mae eisiau crybwyll mai Traeth y Lafan ar gyffiniau Arfon ydoedd y lle a nodir fel etifeddiaeth Helyg ab Glanawg. Nid oes yn awr un coffhâd am eglwys wedi ei chyflwyno iddo, a chedwid ei wylmabsant ar Wyl yr Holl Saint.

Nodiadau

[golygu]