Neidio i'r cynnwys

Geirlyfr Bywgraffiadol o Enwogion Cymru 1870/Aerddrem

Oddi ar Wicidestun
Aerdeyrn Geirlyfr Bywgraffiadol o Enwogion Cymru 1870

gan Isaac Foulkes

Afaon ab Taliesin

AERDDREM. Bedo Aerddrem, neu Aurdrem, oedd fardd o gryn enwogrwydd, a brodor, meddir, o Lanfor yn Meirionydd. Blodeuai o 1480 hyd 1510. Gwelir ar glawr y Greal fod un ar ddeg o'i gywyddau ar gof a chadw mewn llawysgrif. Naw o honynt "I ferch," a dwy dan yr enw "Canu duwiol." Dechreua un "Canu duwiol" fel hyn:

"Y gwr a wnaeth gaerau nef,'

a'r llall,

"Pwy'n gadarn ddyddfarn a ddaw?

Claddwydd ef, meddynt, yn Llanfor.

Nodiadau

[golygu]