Geirlyfr Bywgraffiadol o Enwogion Cymru 1870/Afaon ab Taliesin
← Aerddrem | Geirlyfr Bywgraffiadol o Enwogion Cymru 1870 gan Isaac Foulkes |
Afan Ferddig → |
AFAON AB TALIESIN. Bardd milwraidd oedd hwn. "Tri Tharw Unben Ynys Prydain,—Elmur ail Cibddar; a Chynhafal fab Argad; ac Afäon ab Taliesin Ben Beirdd; a beirdd oeddynt y tri hyn, ac nid oedd a ofnynt yn nghâd a brwydr, eithr rhuthraw ynddynt a wnaent, ac nid ofnynt gyflafan." "Tri Aerfeddawg Ynys Prydain,Selyf fab Cynan Garwyn; ac Afaon fab Taliesin; a Gwallawg fab Lleenawg; sef achaws y gelwit hwynt yn Aerfeddogion am ddarfod dial eu cam oe eu beddeu.' Cafodd ei ladd gan Lawgad Grwm Fargod Eiddin: neu yn ol un arall o'r Trioedd,—"Tair anfad gyflafan Ynys Prydain,—Eiddyn mab Einygan a laddwys Aneurin Gwawdrydd Mydeyrn beirdd; a Llawgad Trwm Bargawd a laddwys Afäon mab Taliesin; a Llofan Llawdino a laddwys Urien mab Cynfarch; sef tri meib o feirdd oeddynt a las gan y triwyr hyny."
Dyma'r addysg a gafwyd ar ei ol yn Chwedlau y Doethion:
"A glywaist ti chwedl Afaon
Fab Taliesin, gerdd gyfion?
Ni chel grudd gystudd calon."