Geirlyfr Bywgraffiadol o Enwogion Cymru 1870/Afan Buallt
Gwedd
← Afan Ferddig | Geirlyfr Bywgraffiadol o Enwogion Cymru 1870 gan Isaac Foulkes |
Afarwy → |
AFAN BUALLT oedd sant a flodeuodd yn y rhan gyntaf o'r chweched cant. Ei dad oedd Cedig ab Caredig ab Cynedda, a'i fam, Tegwedd, merch Tegid Foel o Benllyn; efe a sefydlodd yn Muallt yn ngwlad Frychan, ac iddo ef y cyflwynwyd Llanafanfawr a Llanafanfechan yn y wlad hono, a dywedir fod ei fedd wrth yr eglwys olaf, yn weledig yn awr, a'r ysgrif a ganlyn yn amlwg ar y gareg :—HIC JACET SANCTVS AVANVS EPISCOPVS, (sef yw hyny Yma gorwedd sant Afan Esgob). Bernir iddo fod yn drydydd yn llinach esgobol Llanbadarn fawr. Cedwid ei wylmabsant ar yr unfed ar bymtheg o Dachwedd.