Neidio i'r cynnwys

Geirlyfr Bywgraffiadol o Enwogion Cymru 1870/Afarwy

Oddi ar Wicidestun
Afan Buallt Geirlyfr Bywgraffiadol o Enwogion Cymru 1870

gan Isaac Foulkes

Aidan esgob Ergyng

AFARWY oedd fab Lludd, brenin y Brutaniaid. Gan i'w dad farw cyn iddo ddyfod i'w oed, cymerodd Caswallawn ei ewythr y llywodraeth, yr hwn a roddodd Lundain a iarlliaeth Cent i Afarwy, a Chernyw i'w frawd Teneufan. Darfu i Caswallawn, wedi cael buddugoliaeth fawr ar y Rhufeiniaid dan Cæsar, wahodd yr holl benaethiaid i'w dathlu âg aberthau i'r duwiau, a gwnaed gwledd ardderchog; ond digwyddodd yn anlwcus ar y pryd, i Hirlas, nai y brenin, gael ei ladd gan Cyhelyn, nai Afarwy mewn ymorchest paledog, yr hyn a gynddeiriogodd y brenin gymaint, fel y penderfynodd gael prawf arno. Afarwy, yn ofni y canlyniad, a enciliodd gyda'i nai, o'r llys i'w diriogaethau ei hun, yr hyn a barodd i Caswallawn a'i fyddinoedd ymosod ar Lundain. Afarwy, wedi cael ymosod arno felly, a ddeisyfodd gymod â'r brenin, yr hyn a nacawyd. Yna efe a anfonodd i wahodd Cæsar i'w gynorthwyo, gan addaw ar yr un pryd ei gynorthwyo yntau i ddarostwng y Brutaniaid i'r Rhufeiniaid; ond ni welai Cæsar yn weddus dyfod i Brydain, ar ddim ond geiriau teg Afarwy, nes iddo anfon ei fab, a deg ar hugain o feibion penaethiaid drosodd yn wystlon. Yna efe a fordwyodd drosodd, ac a unodd âg Afarwy, a darfu i'w cydalluoedd orchfygu Caswallawn. Ni fynai Afarwy i'r Brutaniaid fod mwyach yn ddarostyngedig i'r Rhufeiniaid, yr hyn a achlysurodd i Cæsar ymheddychu yn anewyllysgar, ar yr amod fod i deyrnged o dair mil o bunau mewn aur ac arian gael eu talu gan y Brutaniaid yn flynyddol. Yr haf canlynol, aeth Afarwy i Rufain, i wrthwynebu Pompey, lle yr arosodd rai blynyddoedd, a bu farw Caswallawn yn ei absenoldeb, a'i frawd ieuengach Teneufan a ddilynodd i'r orsedd. Dyna sylwedd hanes Afarwy yn y Brutwn Cymreig, fel y maent wedi eu cadw yn y Myv. Arch. Ymddengys mai Androgorius y gelwid Afarwy gan y Rhufeiniaid.

Nodiadau

[golygu]