Neidio i'r cynnwys

Geirlyfr Bywgraffiadol o Enwogion Cymru 1870/Alawn

Oddi ar Wicidestun
Alaw (Dafydd) Geirlyfr Bywgraffiadol o Enwogion Cymru 1870

gan Isaac Foulkes

Alban

ALAWN. "Tri chyntefigion beirdd Ynys Prydain,—Plenydd, Alawn, a Gwron; sef oeddynt y rhai hyny a ddychymygasant y breiniau a'r defodau sydd ar feirdd a barddoniaeth."

Barnai T. ab Iolo Morganwg nad oedd y tri chyntefigion ddim amgen na dynsoddiad o "Dri phrif anhebgor Awen,—llygad yn canfod anian, calon yn teimlo anian, a glewder a faidd gydfyned ag anian." Ystyr y gair Alon yw cynghanedd, cysondeb, cyngherdd. Calon y bardd yn gydgerdd ag anian o'i gwmpas, yw Alawn. Mae rhai yn deilliaw y gair o llon, eraill o llawn, ac eraill o al, (uchel, ardderchog,) megys ag y deillia Alaw, Alwen, &c., o'r un gwreiddyn. Mae eraill yn golygu Alawn fel person gwirioneddol, ond ei fod yn byw cyn cof llyfr ac achau, fel nad oes goffa am dano ond ei enw a'i swydd.

"Gorug Alawn fardd Prydain
Gofrodeu cleu clodysgain,
Coel cyd celfyddyd cyfrain."

Y mae y Dr. Owen Pughe, yn ei Cambrian Biography, yn meddwl fod yn debygol mai yr un person ydoedd ag Olen, Olenus, Ailinus, a Linus, yn mhlith y Groegiaid, oddiwrth yr amgylchiad fod yr un priodoleddau yn cael eu rhoddi iddo ganddynt ag a roddir i Alon yn y Trioedd.

Nodiadau

[golygu]