Neidio i'r cynnwys

Geirlyfr Bywgraffiadol o Enwogion Cymru 1870/Alban

Oddi ar Wicidestun
Alawn Geirlyfr Bywgraffiadol o Enwogion Cymru 1870

gan Isaac Foulkes

Albanactus

Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Alban Ferthyr
ar Wicipedia

ALBAN. Ystyrir Alban ar lawer o ystyriaethau fel y cyntaf oll o ddilynwyr Crist, yn y wlad hon, a ymunodd ag "ardderchog lu y Merthyri." Ganwyd ef yn nhref Feriwlam yn y trydydd cant. Dywed yr hen Groniclwyr mai Prydeiniaid oedd ei rieni, ac nid ydyw yn debyg iddo newid ei enw, oblegyd y mae Alban yn enw hollol Frutanaidd. Ymrestrodd hefo byddin y Rhufeiniaid, a bu am saith mlynedd yn eu gwasanaeth milwrol. Y pryd hyn y daeth i gyfeillgarwch ag Amphibalus, yr hwn a droes yn Gristion. Wedi dychwelyd i'w dref enedigol, lle yr arosodd mewn parch ac urddas hyd nes y tores yr erledigaeth allan yn ffyrnig a distrywgar yn amser yr ymerawdwr creulon Diocletian. Yn y cyfamser dylanwadodd ei gyfaill Amphibalus yn fawr arno, a'r canlyniad fu iddo droi yn Gristion trwyadl, ac fel llawer un arall o ddisgybion y Groes dybenodd ei yrfa yn ferthyr. Nid ydyw'r hanes a ddyry Gildas o hyn ond byr: Bede, yr hanesydd eglwysig, ar y llaw arall a gofnoda'r ffeithiau yn llawer helaethach. Crybwylla ef ddarfod i Alban, tra yr ydoedd yn bagan, neu o'r hyn lleiaf, cyn iddo wneud proffes gyhoedd o Gristionogaeth, gadw neu yn hytrach guddio, ei gyfaill Amphibalus yn ei dy, ac i'r llywodraethwr Rhufeinig glywed ryw fodd ei fod ef yn celu Cristion yn ei dy, ac iddo anfon milwyr yno i ddal y cyfryw. Alban pan welodd hyn a wisgodd am dano ddillad ei gyfaill, a chymerwyd ef o flaen yr Ÿnad. Digwyddodd, pan ddygpwyd Alban yno fod hwnw yn offrymu i'w dduwiau, a chan na fynai ef gydweithredu yn y drefn, ond cyhoeddi ei hun yn Gristion, gorchymynwyd ar iddo gael ei ferthyru yn ebrwydd. Dywedir hefyd i'w eonder gwrolfrydig ddylanwadu yn arbenig ar yr edrychwyr, a pheri i lawer o honynt gofleidio ffydd Crist Iesu y Gwaredwr. Torwyd ei ben ar y degfed dydd o Orphenaf, O. C. 303. Bu ei goffadwriaeth yn fendigedig am ganrifoedd, a thelid parch mawr iddo am ei ymlyniad didwyll. Adeiladwyd eglwys ar y llecyn y dienyddiwyd ef yn lled fuan ar ol ei ferthyrdod, ac mewn amseroedd diweddarach addurnwyd hi fel yr ydoedd yn un o'r adeiladau prydferthaf a thlysaf yn Lloegr.

Nodiadau

[golygu]