Neidio i'r cynnwys

Geirlyfr Bywgraffiadol o Enwogion Cymru 1870/Amwn Ddu

Oddi ar Wicidestun
Amphibalus Geirlyfr Bywgraffiadol o Enwogion Cymru 1870

gan Isaac Foulkes

Anarawd

AMWN DDU. Mab ydoedd i Emyr Llydaw, tywysog Graweg, yn Llydaw. Ei wraig ef oedd Anna ferch Meurig ap Tewdrig. Bu iddynt lawer o blant, y rhai y mae eu henwau yn llyfr y seintiau, nid amgen Tydecho, Samson, Tathan, Gwyndaf Hen, Pedrwn, Hywel, Alan, Difwg, Gwyddnaw, a Thegfedd eu chwaer. A thyma oedd ei wehelyth: efe a hannes parth ach o Ynys Prydain, nid amgen nag o Gynan Meiriadog, yr hwn a ymsefydlodd yn Llydaw yn amser Macsen Wledig. Plant yr Amwn Ddu a fuant yn gyff saint Enlli a Gwynedd yn y chweched cant. Chwaer i Amwn oedd Gwenteirbron mam Cadfan, blaenor Gwelygordd Emyr Llydaw. Yr oedd Garmon yn ewythr o frawd ei fam i Emyr Llydaw, ac Illtud farchog yn gefnder iddo: ac yn nglŷn a'r cenhadon ymroddgar hyn yr ymgyssegrodd plant Emyr i efengylu yn mysg ein hynafiaid di-ffydd. Dywedir i Amwn Ddu ymneillduo ac arwedd bywyd meudwyol, ac mai mewn ynys gerllaw i Llanilltyd Fawr y trefai, hyd nes iddo fyned yn mhellach o dwrf y byd i ryw ddiffeithle annghysbell. Ond odid mai yn Mawddwy yr oedd y lle hwn, oblegyd y mae yno hyd heddyw le a adwaenir wrth yr enw Cell Fawddu neu Gell Amwn Ddu. Tydecho ab Amwn Ddu ydyw sant cyfryngol holl eglwysi'r cymydogaethau hyn. Crybwyllir i Anna ddilyn ei gwr i'r lle anhygyrch, ac iddo adeiladu eglwys yno; a Samson eu mab a gysegrodd yr unrhyw. Bernir iddo gael ei gladdu yn Llanilltyd Fawr. Gellir tybied fod Llan-y-mawddwy wedi cael ei henwi oddiwrtho yn gystal ag oddiwrth ei fab Tydecho: oblegyd gelwir hi weithiau yn Llandudech yn gystal a Llan-y-mawddwy, sef yw hyny:—Llan-amwn-ddu.

Nodiadau

[golygu]