Geirlyfr Bywgraffiadol o Enwogion Cymru 1870/Amphibalus
← Amo | Geirlyfr Bywgraffiadol o Enwogion Cymru 1870 gan Isaac Foulkes |
Amwn Ddu → |
AMPHIBALUS. Dywed Giraldus Cambrensis ac eraill mai gwr genedigol o Gaerlleon ar Wysg ydoedd, ac iddo gael ei eni yn ystod y trydydd cant. Haera eraill mai monach oedd yn perthyn i Eglwys Gadeiriol y lle ardderchog hwnw, oblegyd dyna oedd prif dref Cymru y pryd dan sylw. Hyn, fodd bynag, sydd eithaf amlwg, mai ef fu'r offeryn yn llaw Duw o ddwyn Alban i gofleidio ffydd y Groes. Yr oedd ef ac Alban yn hen gyfeillion fel yr ymddengys oddiwrth eu Bucheddau. Ni wyddis pa beth oedd ei enw cyntefig, ac ni ddyry Sieffrey o Fynwy nemawr o oleu fynag ar y peth, oblegyd math o gyfieithiad o'r un dan sylw a geir ganddo. Ar ol iddo drwy help Alban ddianc o Ferulam, dychwelodd i Gaerlleon, a phregethodd gyda grym a llwyddiant anarferol, a throes nifer mawr at Gristionogaeth, ac oherwydd y droedigaeth a gymerth le yn adeg merthyrdod Alban, ffoes tua mil o'r fan hono am nodded yn Nghymru, lle y derbyniwyd hwy i Eglwys Crist trwy fedydd gan Amphibalus. Cynhyrfodd hyn ddygasedd trigolion paganaidd eu hen gartref, fel y penderfynasant eu dilyn yn arfog, a dyfod a wnaethant nes d'od o hyd iddynt, ac yna eu cigyddio a'u darnio a wnawd. Yn mysg y cyfryw, daliwyd Amphibalus, a chludasant ef hyd o fewn rhyw dair milltir i Ferulam, ac yno llabyddiwyd ef gan y creuloniaid atgas. A thyna ran y sant disglaer hwn yn mrwydr y ffydd.—Gwel ALBAN.