Neidio i'r cynnwys

Geirlyfr Bywgraffiadol o Enwogion Cymru 1870/Andras (duwies)

Oddi ar Wicidestun
Andras mab Ceryn Geirlyfr Bywgraffiadol o Enwogion Cymru 1870

gan Isaac Foulkes

Ane

ANDRAS, neu Andros, oedd yr enw a ddodid yn chwedloniaeth ein hynafiaid ar yr au dduwies Mallen. Priodolid gweithredoedd cyffelyb iddi hi ag a briodolai y Groegiaid i'w ffug—bersonau Hecate, eu Bellona, a'u Enyo, hwythau. Dywedai Coel Gwlad fod iddi farch hefyd a elwid "March Malen," ar gefn yr hwn, credid, y byddai lledrithwyr a dewiniaid yn cyflym deithio mor wyrthiol ar hyd a lled y ddaear yn y dyddiau gynt. Oddiar yr ofergoel hon y tarddodd y ddiareb, "A gasgler ar Farch Malen, tan ei dor ydd â: neu a eniller trwy ddewiniaeth, diles a difantais fydd. Dywedir y byddai'r hen Frutaniaid yn aberthu ebyrth dynol i Andras; a thystiolaetha Dion ddarfod i Buddug cyn ymladd â'r Rhufeiniaid weddio ar Andras am ei melldith arnynt. Gelwid hi weithiau "Y Fall," Mam y Drwg," a'r "Hen Wrach;" ac y mae ei henw ar Lafar Gwlad hyd y dydd hwn, canys dywediadau a glywir yn fynych ydynt "Chwareu'r Andros," yr hyn ydyw ymddwyn yn nwydwyllt a chynddeiriog; "mae yr Andros ynddo," sef y mae drygioni ynddo; a'r "hen Andros" sydd air arall am y diafol. Fel hyn y mae tarddiad llawer o'n hymadroddion mwyaf cyffredin yn nghanol ofergoeledd ein hynafiaid.


Nodiadau

[golygu]