Neidio i'r cynnwys

Geirlyfr Bywgraffiadol o Enwogion Cymru 1870/Ane

Oddi ar Wicidestun
Andras (duwies) Geirlyfr Bywgraffiadol o Enwogion Cymru 1870

gan Isaac Foulkes

Aneurin Gwawdrydd

ANE, neu Aneu, un o feibion Caw, arglwydd Cwm Cawlyd, talaeth yn Ngogledd Lloegr, yr hwn, o herwydd cael ei flino gan ymosodiadau y Pictiaid a'r Scotiaid, a ymfudodd gyda'i deulu i Gymru, ac a gafodd diroedd yn Môn gan Maelgwn Gwynedd. Y mae Ane yn cael ei gyfrif yn mhlith y seintiau Cymreig, ac y mae eglwys Coed Ane, yn y wlad hono, yn cael ei galw yn ol ei enw. Yr oedd yn ei fri yn y chweched ganrif.

Nodiadau

[golygu]