Geirlyfr Bywgraffiadol o Enwogion Cymru 1870/Aneurin Gwawdrydd
← Ane | Geirlyfr Bywgraffiadol o Enwogion Cymru 1870 gan Isaac Foulkes |
Anna → |
ANEURIN GWAWDRYDD, yr enwocaf o'r cynfeirdd, oedd fab Caw arglwydd Cwm Cawlyd, yn y Gogledd. Oesai yn gynar yn y chweched ganrif. Yn yr oes hono yr oedd gan y Cymry fan deyrnasoedd ar dueddau yr Alban, y rhai a elwid "Teyrnedd y Gogledd." Yno yr oedd Deifr a Bryneich, Rheged, Argoed Llwyfain, Derwenydd, Manau Gododin, y Cwm Cawlyd, &c. Anhawdd yw adnabod yr hen derfynau yn bresenol, ac nid ydyw ein haneswyr wedi talu y sylw a ddylasent i'r hen diriogaethau hyny. Hefyd, mae yn deilwng o sylw mai brodorion o'r parthau hyny oedd amryw o'n cynfeirdd, yn enwedig Aneurin Gwawdrydd, Llywarch Hen, &c. Gelwir Caw weithiau yn Caw o Brydyn, Caw ap Geraint, arglwydd Cwm Cawlyd neu Cawllwg, ac yr oedd ei drigfa fyn rhywle yn Strathclwyd. Dygwyd ei diriogaeth oddiarno gan y Gwyddyl Ffichti, a ffodd yntau i Gymru. Cafodd nawdd gan Faelgwyn Gwynedd, ac ymsefydlodd yn y Twr Celyn yn Mon. Mae llawer o'i blant yn mhlith y seintiau Cymreig. Yr oedd dynion o bwys mewn gwybodau hynafol, megys Iolo Morganwg a Dr. Owen Pughe, yn barnu mai yr un oedd Aneurin a Gildas sant, ond mai Aneurin oedd ei enw milwraidd a barddonol yn more ei oes, ac iddo droi yn fynach, ac arferu yr enw Gildas fel gwr eglwysig, cyn ei farw. Dygir amryw o resymau dros y dyb hon. Caniateir ar bob llaw mai meibion Caw oedd y ddau; ond y mae rhyw bethau yn awgrymu eu bod yn nes at eu gilydd na dau frawd; canys mae yr hen gofrestrau o feibion Caw, os enwant un yn esgeuluso y llall. Nid yw Aneurin a Gildas byth yn yr un gofrestr. Hefyd, mae'r ddau enw yn gyfystyr. Mae Aur yn y ddau, "Gilda, Gildas y Coed Aur, Aur y Coed Aur, ac Aneurin y Coed Aur," ydynt enwau cyfystyr. Gelwir Cenydd yn fab Gildas ab Caw, a gelwir Ufelwyn yn fab Cenydd ab Aneurin y Coed Aur. Heblaw hyny, mae bywgraffwyr monachaidd Gildas yn ei alw yn fab Caw brenin o'r Gogledd. Ond y mae anianawd a chymeriad y ddau ddyn yn eu harddangos yn fodau hollol wahanol i'w gilydd. Yr oedd Aneurin yn llawn o wladgarwch cenedlaethol; ond Gildas o'r tu arall yn beio ar y genedl, ac yn ei diraddio. Heblaw hyny, bu farw Gildas yn Ynys Afallon, a chyflafanwyd Aneurin yn Llancarfan. Gwel Hanes Cymru, gan Carnhuanawc, tu dal. 366, 367, a'r Welsh Saints, gan y Cadeirdraw Rees, tu dal. 225-227. Ond fel bardd y mae a wnelom yn benaf ag Aneurin; ac y mae ei enwogrwydd barddonol yn gorphwys braidd yn llwyr ar y Gododin. Dyma'r gân benaf, yn ddiau, o hen ganiadau y Cymry. Ei sylfon yw brwydr drychinebus Cattraeth, yn yr hon y collodd y Cymry "deyrnedd y gogledd" am byth. Mae awdwr Eminent Welshmen, yn gosod y frwydr hon tua'r flwyddyn 540. Ond y mae Ab Ithel yn ei gyhoeddiad ef o'r Gododin yn gosod y tebygolrwydd i'r frwydr hon ddigwydd tua'r flwyddyn 570, gan i un o'r gwroniaid a syrthiodd yn Nghattraeth ladd Ida yn y flwyddyn 560. Mae ystyr y gair Gododin yn dywyll, ac anhawdd ei benderfynu. Dywedir i Cunedda Wledig ddyfod ar y cyntaf o'r parth Gogleddol, o'r ardal a elwir Manau Gododin."—Hanes Cymru, tu dal. 356. Gelwid yr ardal Ottodinia, a'r llwyth a'i cyfaneddent Ottodini. Tybir fod y lle hwn yn agos i Bryneich, a bod Gododin a Chattraeth yn ddau enw ar yr un ardal, canys y mae Aneurin yn dywedyd yn y Gododin, penillion 6, 7:
Gwyr a aeth Ododin chwerthin ognaw, &c.
Gwyr a aeth Ododin_chwerthin wanar, &c,
Ac yn y penillion 9-14:
Gwyr a aeth Gattraeth gan wawr, &c.
Mae Taliesin yn galw Urien Rheged yn "Llyw Cattraeth," yr hyn a brawf fod parth yn agos i Reged yn yr hen amser o'r enw Cattraeth a Gododin. Barna T. Stephen yn ei Literature of the Kymry, t. d. 11, mai Cataracton y Rhufeiniaid, Catterick yn awr, oedd yr hen Gattraeth; tra mae Ab Ithel yn tybied mai Catrail sy'n ei gynrychioli. Mae y Celtig Davies o'r tu arall yn rhoi ystyr farddawl i'r gair, gan farnu mai Cadeiriaith, neu yn dalfyredig, Cadriaith, yw ei ystyr. Gododin hefyd a ddadansoddir o to, godo—töedig mewn rhan; a din, dinas, neu amddiffynfa—dinas odöedig. Sonia y Trioedd am "Gadriaith ab Porthor Godo," ond nis gwn pa gysylltiad oedd rhwng hwnw â Gododin. Golyga y Parch. E. Willliams (Cam. Reg. vol. ii. p. 16) fod yr enw yn arwyddo parthau ar derfynau cysgodwydd (regions bordering on a covert); sef lle, feddyliem, rhwng Tir Ial a Gwyddeli. Pa fodd bynag am y lle, a'i ystyr, sylfon y Gododin ydyw Brwydr Cattraeth. Barna rhai mai coffhad am rhyw un frwydr arbenig ydyw; barna eraill fod yno goffhad am amryw frwydrau yn y rhai y darostyngwyd Cymry y Gogledd; ond y mae y Celtig Davies yn barnu nad oes yno gyfeiriad at frwydr yn y byd, eithr darluniad o Frad y Cyllill Hirion. Barna eraill na bu y fath beth a "Brad y Cyllill Hirion" erioed; ond mai chwedl ydyw a luniwyd ar gefn hanes gwirioneddol brwydr Cattraeth, ac i'r chwedl yn rhawd amser ddiorseddu yr hanes, a'i yru i dir annghof. Beth bynag am wirionedd Brad y Cyllill Hirion, y mae yma frwydr gelaneddog a therfynol wedi ei hymladd, yn ol tystiolaeth y gân:—
O freithell Gattraeth pan adroddir,
Maon dychiorant; eu hoed bu hir;
Edyrn diedyrn, a migyn dir, &c.
Sef, Pan adroddir hanes brwydr Cattraeth, y bobl a ocheneidiant; hir y bu [y gwroniaid] yn absenol, neu yn oedi dychwelyd; arglwyddiaeth ddiarglwydd, sef yr arglwyddiaeth wedi ei cholli yn y frwydr. "A mygyn dir;"—barna Ab Ithel mai tir yn mygu, sef wedi ei losgi, a feddylir; ond cysonach yma ydyw migyn, tir wedi ei figno, neu ei sathru tan draed, a'i wneud fel cors gan y gelynion. Parhaodd y frwydr mewn rhwysg a chynddaredd am bedwar diwrnod, mal y tystia y penill 68:
Dyfforthes meiwyr molud Nyfed,
Baran tan terydd ban gyneued;
Dyw Mawrth gwisgasant eu gwrm dudded,
Dyw Mercher priddaint eu calchdoed,
Difiau bu diau eu difoed,
Dyw Gwener celanedd a amddyged,
Dyw Sadwrn bu difwrn eu cydweithred,
Dyw Sul eu llafnau rhudd ymddyged,
Dyw Llun hyd ben clun gwaedlyn gweled;
Neus adrawdd Gododin gwedi lludded,
Rhag pebyll Madawg pan adgoried
Namyn un gwr o gant yno ddeled."
Gwelir oddiwrth y penill uchod fod y milwyr yn cyflawni rhyw ddefod grefyddol cyn dechreu'r frwydr, sef moli Nyfed yn ngwyddfod y tân terydd a gyneued ar ryw le ban, neu uchel. Y bardd, feallai, oedd yn offeiriadu; a'r meiwyr yn dyphorthi—gair arferedig hyd heddyw yn Arfon am swydd Clochydd, yw "Porthi y Gwasanaeth." Y mae yn anhawdd gwybod a oedd y Cymry yn arfer rhyw ddefodau Derwyddol, ai nad oeddynt; ond y mae yn debyg fod y Saeson yn cyflawni rhyw ddefodau paganaidd, fel y prawf y penill 80:
Gwelais y dull o ben tir adoyn,
Aberth am goelcerth a ddysgynyn,
Gwel hefyd y penill 92:
Gwelais y dull o bentir adoyn,
Aberthach coelcerth a ymddygyn.
Yr oedd y Cymry, mae'n debygol, yn fwy goleuedig:
Cyd elynt i Lanau i benydiaw.—Pen. 63.
Dichon mai oddiwrth y Cymry y cafodd y Saeson yr arferiad o wisgo milwr—wisg goch, canys y mae yn amlwg fod y Cymry yn y frwydr hon yn gwisgo "gwrm dudded," sef gwisg lwydgoch, neu ddugoch, sef lliw cyfaddas i guddio'r gwaed, gan eu bod bron yn gydliw. Trodd y frwydr hon mor llwyr yn erbyn y Cymry, fel na ddiangodd ond tri o'u penaethiaid, sef Cynon, Cadraith, a Chadlew, ac Aneurin ei hun, yn fyw ohoni, er fod trichant a thriugain a thri o eurdorchogion yn cychwyn i'r maes ddydd Mawrth y bore!
Tri wyr a thri ugaint a thri chant eurdorchawg.
Er i'r nifer uchod fyned i Gattraeth, eto
Ni ddiengis ond tri o wrhydri ffosawd,
Dau gadgi Aeron, a Chynon daerawd,
A minau o'm gwaedffrau gwerth fy ngwenwawd.
Y ddau gad-gi oeddynt Cadraith a Chadlew. Diangodd y bardd oherwydd ei swydd, neu werth ei wenwawd; canys yr oedd trwyddedogaeth i fardd wrth ei swydd i fyned lle yr elai, ac nas dygid noeth arf yn ei erbyn. Er hyny, cafodd y bardd ei ddala, a'i gadwyno mewn daeardy am dymhor. Penill 45:
Ystynawg fy nglin yn y ty daiarin,
Cadwyn haiernin am ben fy neulin.
Achubwyd ef oddiyno trwy ddewrder Cenau fab Llywarch Hen. Penill 46:—
O nerth y cleddyf claer ym hamug
O garchar anwar daiar ym dug,
O gyfle angau, o angar dud,
Cenau fab Llywarch dihafarch drud.
Os cymer y darllenydd drafferth i droi i Eiriadur, gwel ar unwaith feddwl y llinellau uchod. Ar ol hyn, ffodd Aneurin i Gymru at ei frodyr, gan ymnoddi yn Nghôr Cattwg, yn Llanfeithin, yn Morganwg. Yno y cyfansoddodd ef y Gododin. Tebygol fod Taliesin yno yr un pryd, fel yr awgrymir yn penill 45:
Mi wnaf fi, Aneurin, ys gwyr Taliesin,
Ofeg gyfrenin, ganig Ododin,
Cyn gwawr dydd dilin.
Coffeir ei ddiwedd yn y Trioedd fel hyn:—"Tair anfad gyflafan Ynys Prydain Eiddyn mab Eingan a laddawdd Aneurin Gwawdrydd, mydeyrn beirdd," &c. "Tair anfad fwyellawd Ynys Prydain; Bwyellawd Eiddyn yn mhen Aneurin," &c. Gelwir Aneurin yn medeyrn, a mydeyrn beirdd, yn y Trioedd, ond mechdeyrn yw y gair yn iawn; sef tywysog neu frenin beirdd. Nis gwyddom pa beth a gynhyrfodd Eiddyn i daraw y bardd yn ei ben â bwyall rhyfel, na pha flwyddyn y cymerodd hyny le, ond hyny yw y traddodiad am ei farwolaeth.
Sylwn ychydig yn mhellach ar nodwedd ei farddoniaeth. Cynwysa y Gododin dros 900 o linellau o wahanol hyd, ac ar wahanol fesurau. Rhenir y cwbl, yn ol argraffiad Llanymddyfri, dan olygiad Ab Ithel, i 97 o benillion, neu adranau. Nid oes yno ddim adliw cynghanedd oddigerth o ddamwain; ond cedwir yr odl yn weddol ofalus. Mae'r mesurau yn amrywio; dechreuir gyda gorchanau ar y gyhydedd bedeirsill a phumsill yn gymysg. Wedi hyny, gorchanau o naw ban yn y penill, a'r llinellau yn naw a deg sill o hyd. Weithiau ceir hupynt, bryd arall fforchawdl, yna traethodl, &c. Gellid meddwl pe cawsid y gân yn ei chyflwr cyntefig, cyn ei hacru gan adysgrifenwyr, ei bod yn gyfansoddiad cywrain a gorchestol iawn. Tebygol mai arwr y gân yw Owain ab Urien, yr hwn oedd yn ei flodeu, ar "farch mwth myngfras," a'i darian ysgafn-lydan, a'i gleddyf gloewlas, a'i wisg o bân, a'i yspardynau o aur, yn myned i'r maes. Ato ef y cyfeirir feallai yn "Cu cyfaillt Owain!"
Bwriodd Owain ab Urien
Y tri thwr yn Ngattraeth hen;
Ofnodd Arthur fel goddaith
Owain, ei frain, a'i ffon fraith.
—L. G. COTHI.
Tybir yn gyffredin fod y Cymry yn myned i'r frwydr yn feddwon; ac y mae amryw fanau yn y Gododin fel yn awgrymu felly, megis
Gwyr a aeth Gattraeth oedd ffraeth y llu,
Glasfedd eu hancwyn a'u gwenwyn fu.
Gwin a medd o aur fu eu gwirawd.
Gwyr a grysiasant, buant gydnaid,
Hoedl fyrion, meddwon uwch medd hidlaid.
Ond tebycach mai wedi eu sirioli gan win a medd yr oeddynt, ac nid wedi eu meddwi yn ystyr ddiweddar y gair. Amcan y bardd ydyw cyferbynu eu llawenydd wrth gychwyn i'r frwydr â'r galanastra a'u cyfarfyddodd yno, ac nid nodi meddwdod y fyddin fel yr achos o'u dinystr.
Heblaw'r Gododin, priodolir darnau eraill i Aneurin, sef Gwarchan Adebon, Gwarchan Cynfelyn, a Gwarchan Tudfwlch. Barna rhai mai gorcheiniaeth a feddylir wrth "gwarchan" gan y Cynfeirdd, a'u bod yn fath o ddewiniaid; ond y mae'n fwy naturiol i ni dybied mai gorchanau a olygent, sef mesurau elfenol a syml. Cysylltir Englynion y Misoedd âg enw Aneurin; ond y mae beirniadaeth a chraffder yr oes hon yn gwrthod y dyb hono. Saif Aneurin yn uchel yn ngolwg y Beirdd yn mhob oes. Dymunai D. Benfras yn 1200 am awen
I ganu moliant mal Aneurin—gynt
Dydd y cant Ododin.
Risierdyn yn 1300 a ddywedai
Tafawd un arawd Aneurin—gwawdglaer.
Sefnyn yn 1350 a ddywedai
Medd cyhoedd miloedd molawd—Aneurin.
Mae beirdd y canoloesoedd yn cydnabod Aneurin yn enwog brif-fardd o'r cynoesoedd, yr hyn sydd yn arwyddo fod y Gododin yn eiddo dilys iddo.