Neidio i'r cynnwys

Geirlyfr Bywgraffiadol o Enwogion Cymru 1870/Anna

Oddi ar Wicidestun
Aneurin Gwawdrydd Geirlyfr Bywgraffiadol o Enwogion Cymru 1870

gan Isaac Foulkes

Annan

ANNA. Gwraig Amwn oedd hi, a gweddus ei galw yn fam seintiau, ac ymddengys ei bod hithau, fel ei phlant, yn gweithio o lwyrfryd calon yn mhlaid y ffydd a rodded unwaith i'r saint. Crybwyllir yn Achau'r Saint iddi fod yn wraig i Ynyr o Gaer Gawch, ac mai hi oedd mam Non, yr hon oedd mam Dewi Sant. Ond wrth gyferbynu yr amser y blodeuai Amwn Ddu, gwr Anna, hefo'r pryd yr oedd Dewi Sant yn ei fri, ceir eu bod yn gyfoeswyr o ran, ac felly annichonadwy bod gwraig Amwn yn nain iddo; pe dywedasid mai ail wr Anna oedd Amwn Ddu, buasai yn beth tebycach; ond rywfodd y mae mwy o debygolrwydd mai camgymeriad sydd wedi ymgripio i'r achau. Merch Meirig ab Tewdrig oedd yr Anna hon.

ANNAN. Gwel ANHUN.

Nodiadau

[golygu]