Golau a nerthol yw ei eiriau
← O! Llefara, addfwyn Iesu | Golau a nerthol yw ei eiriau gan William Williams, Pantycelyn |
Dyma babell y cyfarfod → |
206[1] Gair Crist, ei Bresenoldeb, a'i Enw
87. 87. D.
1 GOLAU a nerthol yw ei eiriau,
Melys fel y diliau mêl,
Cadarn fel y bryniau pwysig;
Angau Iesu yw eu sêl;
Y rhain a nertha 'nhraed i gerdded
Dyrys anial ffordd ymlaen;
Y rhain a gynnal f'enaid egwan
Yn y dŵr ac yn y tân.
2 Gwedd dy ŵyneb sy'n rhagori
Ar drysorau'r India draw;
Mae awelon pur dy gariad
Yn dwyn gwobor yn eu llaw;
Perffaith bleser heb ddim diwedd,
Perffaith gysur heb ddim trai,
Yn y stormydd mawr cynddeiriog,
Yw yn unig dy fwynhau.
3 Tyred gyda mi trwy'r fyddin,
Gyda mi yn erbyn llu;
Yn dy enw mi goncweriaf
Bawb sy'n sathru d'enw cu;
D'enw Di a faeddodd angau,
Faeddodd uffern fawr ei grym,
Bellach ni all cnawd a phechod
Wrthwynebu d'enw ddim.
William Williams, Pantycelyn
Ffynhonnell
[golygu]- ↑ Emyn rhif 206, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930