Goronwy Owen - Detholiad o'i Farddoniaeth/Hiraeth

Oddi ar Wicidestun
Y Farn Fawr Goronwy Owen - Detholiad o'i Farddoniaeth

gan Goronwy Owen

Salm CVII


Hiraeth

DARLLENAIS awdl dra llawn serch,
Wych enwog fardd, o'ch annerch,
A didawl eich mawl im oedd—
Didawl a gormod ydoedd.

Ond gnawd mawl bythol lle bo,
Rhyddaf i'r gŵr a'i haeddo;
Odidog mi nid ydwyf,
Rhyw sâl un, rhy isel wyf.


Duw a'm gwnaeth, da im y gwnêl,
Glân Iesu, galon isel,
Ac ufudd fron, dirion Dad,
Ni oludd fy nwy alwad.
O farddwaith od wyf urddawl,
Poed i wau emynau mawl—
Emynau'n dâl am einioes,
Ac awen i'r Rhên a'i rhoes.
Gwae ddiles gywyddoliaeth,
Gwae fydd o'i awenydd waeth;
Deg lôn, os gweinidog wyf,
Digwl y gweinidogwyf;
Os mawredd yw coledd cail,
Bagad gofalon bugail,
Ateb a fydd, rhyw ddydd rhaid.
I'r lôn am lawer enaid.
I atebol nid diboen,
Od oes Barch dwys yw y boen;
Erglyw, a chymorth, Arglwydd,
Fy mharchus arswydus swydd;
Cofier, ar ôl pob cyfarch,
Nad i ddyn y perthyn parch:
Nid yw neb ddim ond o nawdd,
Un dinam lôn a'i doniawdd;
Tra'n parcher trwy ein Perchen,
O cheir parch, diolch i'r Pen;
Ein perchen iawn y parcher,
Pa glod sy'n ormod i Nêr?
Parched pob byw ei orchwyl,
Heb gellwair, a'i air a wyl,
A dynion ei dŷ annedd,
A'i allawr, lôr mawr a'i medd.

Dyna'r parch oll a archaf,
Duw lôn a'i gŵyr, dyna gaf.
Deled i'n Iôr barch dilyth,
Ond na boed i undyn byth
Nag eiddun mwy na goddef,
Tra pharcher ein Nêr o nef;
Gwae rodres gwŷr rhy hydron,
Gwae leidr a eirch glod yr Iôn;
Gocheler, lle clywer clod,
Llaw'n taro lleu-haint Herod.

Ond am Fôn hardd, dirion deg,
Gain dudwedd, fam Gwyndodeg,
Achos nid oes i ochi,
Wlad hael, o 'madael â mi;
Cerais fy ngwlad, geinwlad gu—
Cerais, ond ofer caru!
Dilys, Duw yw'n didolydd:
Mawl iddo, a fynno fydd.
Dyweded Ef, na'm didol,
Gair o'r nef a'm gyr yn ôl;
Disgwyl, a da y'm dysger,
Yn araf a wnaf, fy Nêr.
Da ddyfydd Duw i ddofion,
Disgwylied, na 'moded Môn;
Ac odid na chaiff gwedi,
Gan Iôn, Lewys Môn a mi,
Neu ddeuwr awen ddiell,
I ganu gwawd ugain gwell.
Lewys Môn a Goronwy,
Ni bu waeth gynt hebddynt hwy;
A dilys na raid alaeth
I Fôn, am ei meibion maeth;

Nac achos poen, nac ochi,
Na chŵyn, tra parhaoch chwi.
Brodir gnawd ynddi brydydd
Heb ganu ni bu, ni bydd.
Syllwch feirdd o Gaswallon
Law Hir, hyd ym Meilir Môn;
Mae Gwalchmai erfai eurfawr?
P'le mae Einion o Fôn fawr?
Mae Hywel ap Gwyddeles—
Pen prydydd, lluydd a lles?
Pen milwr,—pwy un moliant?
Enwog ŵr, ac un o gant,
Iawn genaw Owen Gwynedd,
Gwae'n gwlad a fu gweinio'i gledd.
Bwy unfraint â'r hen Benfras?
Gwae fe fyw, ei lyw a las.
Mae'r Mab Cryg oedd fyg pan fu
Ab Gwilym yn bygylu?
Dau gytgwys gymwys gymar,
Un wedd ag ychen yn âr.
Cafed ym Môn dduon ddau,
Un Robin edlin odlau,
A Gronwy gerddgar union,
Brydydd o Benmynydd Môn.
Mae Alaw? Mae Caw? Mae cant?
Mae miloedd mwy eu moliant?
Pwy a rif dywod Llifon?
Pwy rydd i lawr wŷr mawr Môn?
Awenyddol iawn oeddynt,
Yn gynnar, medd Ceisar, gynt!
Adroddwch, mae'r Derwyddon,
Urdd mawr a fu'n harddu Môn?

I'r bedd yr aethant o'r byd,
Och alar, heb ddychwelyd.
Hapus yw Môn o'i hepil,
Ag o'r iawn had, gywrain hil.
Clywaf arial i'm calon
A'm gwythi, grym ynni Môn,
Craffrym, fel cefnllif cref-ffrwd
Uwch eigion, a'r fron yn frwd.
Gorthaw, don, dig wrthyd wyf,
Llifiaint, distewch tra llefwyf:
Clyw, Fôn, na bo goelion gau,
Nag anwir fyth o'm genau,
Gwiried lôn a egorwyf,
Dan Nêr, canys Dewin wyf: —
Henffych well, Fôn, dirion dir,
Hyfrydwch pob rhyw frodir;
Goludog ac ail Eden
Dy sut, neu Baradwys hen:
Gwiwddestl y'th gynysgaeddwyd,
Hoffder Duw Nêr a dyn wyd;
Mirain wyt ymysg moroedd,
A'r dŵr yn gan tŵr it oedd.
Eistedd ar orsedd eursail
Yr wyd, ac ni welir ail,
Ac euraid wyt bob goror,
Arglwyddes a meistres môr.
Gwyrth y rhod trwod y traidd,
Ynysig unbenesaidd.
Nid oes hefyd, byd a'i barn,
Gydwedd it, ynys gadarn,
Am wychder, llawnder a lles,
Mwnai 'mhob cwr o'th mynwes,

Dyffrynnoedd, glynnoedd, glannau,
Pob peth yn y toreth tau;
Bara a chaws, bir a chig,
Pysg, adar, pob pasgedig:
Dy feichiog, ddeiliog ddolydd
Ffrwythlon, megis Saron sydd;
A phrennau dy ddyffrynnoedd,
Crwm lwyth, megis Carmel oedd.
"O! mor dirion, y Fôn fau,
Dillad dy ddiadellau!
Cneifion dy dda gwynion gant,
Llydain, a'th hardd ddilladant.
Dawnus wyt, dien ei sail,
Prydferth heb neb rhyw adfail;
A thudwedd bendith ydwyt,
Mawl dy Nêr, aml ei dawn wyt.
Os ti a fawl nefawl Nêr,
Dilys y'th felys foler;
Dawnol fydd pawb o'th dynion,
A gwynfyd 'y myd ym Môn!
Dy eglwyswyr, deg loywsaint,
A'th leygion yn sywion saint,
Cryfion yn ffrwythau crefydd
Fyddant, a diffuant ffydd.
Yn lle malais, trais, traha,
Byddi'n llawn o bob dawn da,
Purffydd, a chariad perffaith, —
Ffydd, yn lle cant mallchwant maith;
Yn lle aflwydd, tramgwydd trwch,
Digon o bob rhyw degwch,
Undeb, a phob rhyw iawnder,
Caru gogoneddu Nêr;

Dy enw fydd, da iawn fod,
Nef fechan y Naf uchod;
Rhifir di'n glodfawr hefyd
Ar gyhoedd, gan bobloedd byd;
Ac o ran maint, braint, a bri,
Rhyfeddod hir a fyddi.

"Bellach, f'ysbryd a ballawdd,
Mi'th archaf i Naf a'i nawdd.
Gwylia rhag ofergoelion
Rhagrith, er fy mendith, Môn.
Poed it hedd pan orweddwyf
Ym mron llawr estron lle'r wyf.
Gwae fi na chawn enwi nod,
Ardd wen, i orwedd ynod;
Pan ganer trwmp lôn gwiwnef,
Pan gasgler holl nifer nef,
Pan fo Môn a'i thirionwch
O wres fflam yn eirias fflwch,
A'i thorrog wythi arian,
A'i phlwm a'i dur yn fflam dân,
Pa les cael lloches o'r llaid?
Duw ranno dŷ i'r enaid,
Gwiw gannaid dŷ gogoniant,
Yng nghaer y sêr, yng nghôr y Sant
Ac yno'n llafar ganu,
Eirian eu cerdd i'r lôn cu,
Poed Gwŷr Môn, a Goronwy,
Heb allael ymadael mwy;
Cyduned a llefed llu
Monwyson, "Amen, Iesu! "

1756.