Gwaith Alun/At Lenor

Oddi ar Wicidestun
College Life Gwaith Alun

gan John Blackwell (Alun)

Telyn Cymru


AT LENOR
(MR. E. PARRY, CAERLLEON.)

Athrofa'r Iesu, Rhydychen,
Chwefror 25ain, 1825.

Y mae yn ddywenydd mawr genyf ddeall fod eich Cymdeithas yn gwellhau yn ei hamcanion fel y mae ei gallu yn cynyddu. Hwyrach na lwyddwch i gael cyd-ymdrechiad y Boneddion a enwasoch;—rhai o herwydd eu hoerfel at yr achos Cymreig,—a llawer am fod rhannau eraill o'r wlad yn galw am eu gwasanaeth yn fwy na Chaer, un ai o herwydd cymydogaeth, neu feddiannau. Er hynny, pe na enillech ddim ond ymegniad gwresog ac unfryd trigolion eich tref eich hunain, byddai yn werth eich trafferth, a gallwch wneuthur gwyrthiau.

Y mae yr Iaith Gymraeg yn deilwng o'i choleddu, ac eneidiau Cymru yn werth eu cadw. Chwi a gewch fy nymuniadau goreu i, os ydynt werth rhywbeth, a phe byddai gennyf well, chwi a'i caech.

Buoch yn ddedwydd iawn gael Mr. Richards yn Gapelwr,—y mae'r gŵr hwnnw yn addurn i bob Cymdeithas lle byddo. Yr ydwyf agos yn eddigeddu y pleser a gewch ar eich Cylchwyl, ac er hynny yn ewyllysio i chwi fil mwy. Rhaid i mi gadw gwyliau Homer ddall yn lle Dewi Sant, ac aros fel mynach yn fy nghell yn lle troedio'r heolydd i ddangos fy "nghenin," a gadael i'm henaid lesmeirio wrth gyngan y delyn. Ond rhaid boddloni, ac yr ydwyf yn foddlon ac yn ddiolchgar.

Yr oeddych yn ymholi pa fodd yr ydwyf yn byw yma.—Credwch fi,—mor syml a diniwed â Meudwy, a mor ddedwydd â Thywysog. Cof am gartref a hen gyfeillion sydd weithiau yn cynhyrfu hiraeth ynof am wlad fy ngenedigaeth, a dyna'r unig ddefnyn chwerw sydd yn fy nghwpan. Y mae penaethiaid yr Athrofa yn dirion i'r eithaf, a chyd-astudwyr mor gyfeillgar ag y gallwn ddymuno.

Yr oeddwn wedi bwriadu englynion i chwi a math o awdl i'ch Cymdeithas; ond hawdd i chwi feddwl nad oes gan un a ymunodd â'r Brifysgol y'mhen pum' mis wedi cydio gyntaf mewn Ieithiadur nemawr amser i gysoddi dim. Pa fodd bynnag, dyma ryw bethau yn llun englynion "Ar y ffolineb o wadu Iaith gynhenid," a ddymunwn gyflwyno i'ch Cymdeithas a chwithau, i aros gwell.

A wirionwyd ar unwaith—yr adyn
Pan redai i estroniaith,
I wadu'i wlad, gyda lediaith,
Gwawdio hon, a gwadu ei hiaith?

A yw'n gywilydd gan ei galon—iaith serch
Iaith su ei fam radlon?
Ddyddiau hir, mor dda oedd hon
I ynganu angenion?

Ai gwr yw a gâr awen—heb arddel
Iaith beirddion disgywen?
Ai un am les hanes hen
Wrthoda chwaer iaith Eden?

Iaith oedd araeth i ddewrion,—wroniaid
Drwy enwog ymdrechion,
Tan eu heirf bloeddient yn hon
"Trowch i'r gad! tr'ewch ergydion!"


YR AMSER GYNT

Rhed ffrydiau serch drwy'r fynwes hon
Wrth gofio'r amser gynt."


—————————————

Ac onis dewis y dyn—y gyngan
Sydd rhwng cangau'r dyffryn?
A gwin i'w fant? ac ni fyn
Iaith hudoliaeth y delyn?

Onid yw iaith fyw mor fad—yn deilwng
O'n dilyth arddeliad?
Neb ond un gwrthun a'i gwad
Neu a ludd ei choleddiad.

Y mae doethaf gymdeithion—Cymroaidd,
Ac amryw o'r Saeson—
Y'Ngwalia mae angylion
Gyda'u heirf am gadw hon.

A cheir yn pleidio ei choron—euraidd
Iorwerth a'i gyfeillion,
A gwr mawr o gyrrau Môn
Yn Llywydd yn Nghaerlleon.

Mwy addas i was isel—a'i osgedd
Am esgyn yn uchel,
Garu ei iaith, a'r gwr wêl
Werth ei hurdd wrth ei harddel.

O'i gwrthod, gwawd ac erthwch,—a'i dilyn
Hyd elor drwy dristwch;
Ni cha lîn goruwch ei lwch,
O glod goreu gwladgarwch.

Boed gan Gymro ym mhob broydd—o'i brif-iaith
Bur fôst yn lle c'wilydd,
Fel na ddel, tra y del dydd,
Lediaith ar ein haelwydydd.


Nodiadau[golygu]