Gwaith Alun/Telyn Cymru

Oddi ar Wicidestun
At Lenor Gwaith Alun

gan John Blackwell (Alun)

At ei Rieni


TELYN CYMRU.
Allan o Saesoneg Mrs. Hemans, i Gymdeithas Gymreigyddol Rhuthyn, 1824

O delyn oesol! dyro eto gainc,
Fel pan ewynai'r hirlas yn y wledd;
Pan gurai bronnau gan wladgarol ainc,
Pan wlychid byrddau Owain gan y medd
O Delyn! deffro 'ngrym yr oesoedd hen,
Adleisia'r bryn dy geinciau gyda gwên.

Dy dant ni's tyr—Rhufeinydd erchyll dôn
Ddaeth dros las ddyfroedd, gyda llawer rhwyf,
Enynai fflam trwy dderi sanctaidd Môn,
A gwnai gromlechau'n garnedd yn ei nwyf,
Rhoi lwch y creiriau gyd â'r gwynt a'r lli',
Delyn, rho gainc, nis gallai d'atal di.

Dy dant ni's torrir. Chwyfiodd baner Sais
Yn ddig ar awel flith Eryri gerth,
Uwch bloedd ei udgyrn, clywid swn dy lais,
Pan guchiai'i gestyll ar y clogwyn serth,
Cynhyrfai'th dôn y dewrion i fwy bri,
Eu llethri oedd ganddynt, bronnau rhydd, a thi

Oes ddu oedd hon; pan gwympai'r glew dirus,
Pan dyfai chwyn gylch bwrdd lle gwleddodd cant,
Pan lechai'r llwynog yn y drylliawg lys,
Oedd nerth i ti'r pryd hyn—dawn ym mhob tant,
Yn nyddiau hedd dy geinciau grymus gyr,
O Delyn bêr! o'th dannau un ni's tyr.

Nodiadau[golygu]

Cyfieithiadau