Gwaith Alun/At ei Fam, pan oedd Weddw
← Calvinism | Gwaith Alun gan John Blackwell (Alun) |
Cwyn ar ôl Cyfaill → |
AT EI FAM, PAN OEDD WEDDW
Hyd. 19eg 1827.
FY ANWYL FAM,
Fy nyledswydd ydyw hysbysu i chwi, gyda phob brys, fy mod wedi cyrraedd pen fy nhaith yn gysurus, a chael pob peth wrth fy modd. Y mae y cyflwr unig y gadewais chwi ynddo, yn peri i mi hiraethu mwy am danoch y tro hwn nag un tro o'r blaen. Buasai yn dda gan fy nghalon gael aros yn agos atoch nes i angeu ein gwahanu. Ond nid felly y mae Rhagluniaeth yn trefnu: rhaid i ninnau ymostwng. O ddiwrnod i ddiwrnod daw y flwyddyn i fyny, pan y caf eich gweled, gobeithio, mewn gwell iechyd ac ysbrydoedd nag y gadewais chwi. Yn y cyfamser erfyniaf arnoch, er dim, i gadw eich meddwl mor dawel ag y galloch: ar hyn y mae eich cysur chwi a minnau yn ymddibynu. Ni wna tristhau ac ymofidio ddim ond gwaethygu eich llygaid dolurus, a chlwyfo meddwl y rhai a'ch carant. Digon gwir cawsom golled fawr,—collasom y cyfaill ffyddlonaf a thirionaf a welsom erioed; eto "na thristawn fel rhai heb obaith." Oni adawodd dystiolaeth ar ei ol ei fod wedi myned i ddedwyddwch—i wlad well na daear, "lle y gorffwys y rhai lluddedig, ac ni chlywant lais y gorthrymydd." Ac os dilynwn ei lwybrau, ni a gawn ei gyfarfod eto mewn ardal nad oes na phechod, na phoen, nag ymadawiad o'i mewn. "Gwir ddymuniad fy nghalon, a'm gweddi ar Dduw sydd erddoch."