Gwaith Alun/Cwyn ar ôl Cyfaill

Oddi ar Wicidestun
At ei Fam, pan oedd Weddw Gwaith Alun

gan John Blackwell (Alun)

Marwolaeth Heber


CWYN AR OL CYFAILL

Pan hirarosai yn Rhydychen, Mehefin, 1827.

(Efelychiad o "Bugail Cwmdyli," gan I. G. G.)

Trwy ba bleserau byd
Yr wyt yn crwydro c'yd?
Mae pleser fel y lli',
A'r moethau goreu i mi
Yn wermod hebot ti,
Sior anwylaf.

Trwm wibio llygad llaith
Am danat yw fy ngwaith;
A rhodio godre'r bryn,
A gwyrddion lannau'r llyn,
Lle rhodit ti cyn hyn,
Sior anwylaf.

Mae peraidd flodau d'ardd
Yn gwywo fel dy fardd;
A'th ddefaid hyd y ddôl,
A'u gwirion ŵyn o'u hol
Yn gofyn ddo'i di'n ol,
Sior anwylaf.

Mae'n Nghymru laeth a mêl,
Mae'n Nghymru fron ddi-gêl,
Mae'n Nghymru un yn brudd
O'th eisiau, nôs a dydd,—
A'i gair wrth farw fydd,
Sior anwylaf.


Nodiadau[golygu]