Gwaith Alun/Bugeilgerdd

Oddi ar Wicidestun
Beddargraff Gwaith Alun

gan John Blackwell (Alun)

Yr Hen Amser Gynt


BUGEILGERDD
Ar dôn "Kate Kearney."

DEWI


A welaist, a 'dwaenaist ti Doli,
Sy' a'i defaid ar ochr Eryri?
Ei llygad byw llon
Wnaeth friw ar fy mron,
Melusach na'r diliau yw Doli.

HYWEL


O do, mi adwaenwn i Doli,—
Mae'i bwthyn wrth droed yr Eryri;
'D oes tafod na dawn
All adrodd yn iawn
Mor hawddgar a dengar yw Doli.

Un dyner, un dawel yw Doli,—
Mae'n harddach—mae'n lanach na'r lili;
'Does enw îs nen
A swnia'n ddisen
Mor ber gyda'r delyn a Doli.

DEWI


Ow! ow! nid yw'n dyner wrth Dewi,—
'Does meinir yn delio fel Doli,
Er ymbil â hi
A'm llygad yn lli,
Parhau yn gildynus mae Doli.


Ymdrechais wneyd popeth i'w boddio,
Mi gesglais ei geifr idd eu godro,
Dan obaith yn llwyr
Y cawn yn yr hwyr
Gusanu yn dalu gan Doli.

Mae'i mhynwes mor wynned a'r eira,—
Mae'i chalon mor oered mi wiria';
Ar f' elor ar fyrr
Fy nghariad a'n ngyrr—
O oered a deled yw Doli!

Tri pheth a dim mwy wy'n ddymuno,—
Pob bendith i Doli lle delo,—
Cael gweled ei gwedd
Nes myned i'm medd,—
A marw yn nwylo fy Noli.

Nodiadau[golygu]