Gwaith Alun/Yr Hen Amser Gynt
Gwedd
← Bugeilgerdd | Gwaith Alun gan John Blackwell (Alun) |
I—— → |
YR HEN AMSER GYNT
Bu'n hoff i mi wrth deithio 'mhell
Gael croesaw ar fy hynt;
Mil hoffach yw cael "henffych well"
Gan un fu'n gyfaill gynt.
Er mwyn yr amser gynt, fy ffrynd,
Yr hen amser gynt;
Cawn wydriad bach cyn canu'n iach,
Er mwyn yr amser gynt.
Yn chwareu buom lawer tro,
A'n pennau yn y gwynt;
A phleser mawr yw cadw co
O'r hyfryd amser gynt.
Er digwyddiadau fwy na rhi',—
Er gwario llawer punt;
Er llawer coll, ni chollais i
Mo'r cof o'r amser gynt.
Tra cura calon yn fy mron,
Drwy groes neu hylon hynt,
Rhed ffrydiau serch drwy'r fynwes hon
Wrth gofio'r amser gynt.