Gwaith Alun/Can Gwraig y Pysgotwr
← Abad-dy Tintern | Gwaith Alun gan John Blackwell (Alun) |
Y Ddeilen Grin → |
CAN GWRAIG Y PYSGOTWR
Gorffwys donn, dylifa'n llonydd,
Paid a digio wrth y creigydd;
Y mae anian yn noswylio,
Pa'm y byddi di yn effro?
Dwndwr daear sydd yn darfod,—
Cysga dithau ar dy dywod.
Gorffwys for! mae ar dy lasdon
Un yn dwyn serchiadau 'nghalon;
Nid ei ran yw bywyd segur,
Ar dy lifiant mae ei lafur;
Bydd dda wrtho, for diddarfod,
Cysga'n dawel ar dy dywod.
Paid a grwgnach, bydd yn ddiddig,
Dyro ffrwyn ym mhen dy gesig;
A pha esgus iti ffromi?
Nid oes gwynt ym mrig y llwyni
Tyrd a bad fy ngwr i'r diddos
Cyn cysgodion dwfn y ceunos.
Iawn i wraig yw teimlo pryder
Pan bo'i gwr ar gefn y dyfnder;
Ond os cyffry dig dy donnau,
Pwy a ddirnad ei theimladau?
O bydd dirion wrth fy mhriod,—
Cysga'n dawel ar dy dywod.
Byddar ydwyt i fy ymbil,
For didostur, ddofn dy grombil;
Trof at Un a all dy farchog
Pan bo'th donnau yn gynddeiriog;
Cymer Ef fy ngwr i'w gysgod,
A gwna di'n dawel ar dy dywod.