Gwaith Alun/Y Ddeilen Grin

Oddi ar Wicidestun
Gwaith Alun/Can Gwraig y Pysgotwr Gwaith Alun

gan John Blackwell (Alun)


Y DDEILEN GRIN

Sech yw'r ddeilen ar y brigyn,
Buan iawn i'r llaid y disgyn;
Ond y meddwl call a ddarllen
Wers o addysg ar y ddeilen.

Unwaith chwarddodd mewn gwyrddlesni,
Gwawr y nef orftwysodd arni;
Gyda myrddiwn o gyfeillion,
Dawnsiodd yn yr hwyr awelon.

Darfu'r urdd oedd arni gynnau,
Prin y deil dan wlith y borau,
Cryna rhag y chwa ireiddlon
Sydd yn angeu i'w chyfoedion.

Ni all haul er ymbelydru,
Na llawn lloer er ei hariannu,
Ac ni all yr awel dyner
Alw yn ol ei hen ireidd-der.

Blaguro ychydig oedd ei chyfran,
Rhoi un wên ar wyneb anian;
Llef o'r nef yn Hydref waedda—
Darfu'th waith,"—a hithau drenga.

Nodiadau[golygu]