Gwaith Alun/Caroline

Oddi ar Wicidestun
Eisteddfod y Trallwm Gwaith Alun

gan John Blackwell (Alun)

Beddargraff


CAROLINE

Llinellau ar farwolaeth Miss Hughes, merch y
Parch. M. Hughes, Periglor Llanwyddelan,
Trefaldwyn

Ceisiais dybio'r son yn anwir,
Syrthio Caroline i lawr,
Ac nad allai seren eglur,
Fachlud wedi t'wnnu ond awr
Ond y glul ar gefn yr awel,
Swn y fron yn hollti'n ddwy,
Adsain och sy'n gwaeddi'n uchel,
Ofer anghrediniaeth mwy.

Hir y cofir y diwrnod
A esgorodd ar y gwae,
Pan y rhedai i gyfarfod
Cyfeillesau i odrau'r cae;
Blaenai'r dyrfa tu a'r annedd,
Crechwen ar ei hwyneb pryd;
Ychydig dybiai mai i'w hangladd,
'Roedd yn gwadd y cwmni ynghyd.

Gyd âg eistedd, deuai angau
'N nesu ati gam a cham,
Ac ni throi oddiar ei siwrnai,
Er gwaedd mil, er gweddi mam;
Delwai'r tylwyth gan yr alaeth,
Gwnaent ei gwely fel yn lli',
Hithau'n dawel dan yr artaith,
Pawb och'neidient ond y hi.

Pan oedd oed yn rhoddi coron
Aeddfed ar ei dull a'i dawn;
Myrrh ac olew yr Ysgolion,
Wedi'i pherarogli'n iawn;

Pob disgwyliad gwych yn agor,
Hithau'n ddedwydd yn ei rhan,
Cadd ei galw ar ei helor,—
Y swyn a dorrwyd yn y fan.

Treigliad ei golygon llachar,
Ei throediad ysgafn ar y ddol,
Corff ac enaid oll yn hawddgar,
Dynnai'r galar ar ei hol;
Ond mae tryliw rhos a lili,
Wedi gwelwi ar ei gwedd,
'N awr ni ddena serch cwmpeini
Mwy na phryfed mân y bedd.

Ffarwel iddi! boed i'r ywen
Gadw llysiau'i bedd yn llon,
A gorwedded y dywarchen
Werdd, yn ysgafn ar ei bron
Sycher dagrau ei rhieni,—
Ior y Nef i'w harwain hwy,
Nes y cwrddant ryw foreuddydd,
Na raid iddynt 'mado mwy.

Nodiadau[golygu]