Gwaith Alun/Eisteddfod y Trallwm

Oddi ar Wicidestun
A Pha Le Mae? Gwaith Alun

gan John Blackwell (Alun)

Caroline


GWAHODDEDIGION EISTEDDFOD TRALLWM, 1824.

Englynion difyfyr i'r Arglwyddes Clive a'i phlant

Enynnwn i uniawn annerch—talaeth,
Am roi telaid eurferch
Montrose, mewn rhwymyn traserch
I Bowys hen—man gwîb serch.

Yr ysgeill yn ol hir wasgar—can-oes
I'r cenin sy'n gymar;
Tan wên cyd-dyfant yn wâr
Eu deuodd yn fri daear.

Mwy yn yr hîl, y mae'n rhaid—y rhennir
Holl rinwedd y ddwy-blaid;
Trwy eu bron, yn hylon, naid
Hen nwyfau eu hynafiaid.

Os daw rhyw haid, i rwystro hedd—ein tir,—
Nes troi ein tai'n garnedd,
Yn y ddiras gynddaredd,
Hil Clive fydd yn dal y cledd.

Ond i hedd a dyhuddiant,—i godi
Dysgeidiaeth, tueddant,
Awenyddion a noddant,
Eu hiaith hen, a cherdd, a thant.

Trwy'u diwrnod tyrred arnynt—bob undeb
A bendith—llwydd iddynt;
Anwylaidd gynnal wnelynt
Dud a gwaed hen dadau gynt.

Nodiadau[golygu]