Gwaith Alun/Eisteddfod Caerwys

Oddi ar Wicidestun
Llwydd Groeg Gwaith Alun

gan John Blackwell (Alun)

Dafydd Ionawr


HAWDDAMOR.

Englynion ar agoriad Eisteddfod Caerwys, 1823.


Hawddamor bob gradd yma,—orwych feirdd,
Rhowch fyrddau 'ni wledda;
Lluman arfoli Minerfa
Sydd uwch Caerwys ddilys dda.

Bu Caerwys, er pob corwynt—a 'sgydwai
Weis cedyrn eu tremynt,—
Er braw, anhylaw helynt,
Nyth y gain farddoniaeth gynt.

Troi o hyd mae byd heb oedi—â'n isel,
Mewn oesoedd, brif drefi;
Rhoes Groeg hen, a'i Hathen hi,
Awr i Gaerwys ragori.

Nodiadau[golygu]