Gwaith Alun/Llwydd Groeg

Oddi ar Wicidestun
Cerdd Gwyliedydd y Wyddgrug Gwaith Alun

gan John Blackwell (Alun)

Eisteddfod Caerwys


MARATHON

"A thra tonn, Marathon, a muriau,
A rhin mi wyr yr hen ymylau."

—————————————

LLWYDD GROEG.

Awdl ar fuddugoliaethau diweddar y Groegiaid ar y Tyrciaid.

 
lwydd, llwydd, fwyn arwydd, i fanerau—Groeg,
Hir rwyged ei llongau
Bob rhes o lu gormes gau,
Drwy'r moroedd draw a'r muriau.


"A llwydd gyfarwydd a fo
I'w Rhyddid, yn eu rhwyddo
Na lanwed yn oleuni,
Cafn y Lloer[1] uwch cefn y lli';
Ond isel, isel eisoes
Drwy gred ymgrymed i'r Groes.


A thra tonn, Marathon, a muriau,
A rhin milwyr yr hen ymylau,
A gaent ffyniant gynt a hoff enwau,
O'u iawn barodrwydd, yn eu brwydrau,
Gwasgarer, gyrrer dan gaerau,—yn haid,
Weis Soldaniaid, isel eu doniau."


Fal hyn o bob dyffryn deg,
Ac ynys a gylch gwaneg;
O'r tyrau muriau mawrion,
Mannau dysg a min y donn,—
Y glau Awen a glywodd
Y llais, a'r adlais a rodd
Groeg hen, yn gwiriaw cynnydd
Ei golau ddawn ac ail ddydd.


Ar ystlysau ei mynyddau,
A'i ffynhonnau hoff yn unawl,
Gwelwyd chwithau, a'ch telynau,
Hen dduwiesau hoen ddewisawl;
Yn galw o'i nych i'w goleu'n ol—eich gwlad,
Ac iawn fwriad, a gwe anfarwawl.


Ac wrth wych adlais, a gwyrth eich odlau,
Cysgodolion y diwydion dadau,
Yr aml areithwyr, y milwyr hwythau,
Gwyr fu o ddinam ragoraf ddoniau,
A neidiant, beiddiant o'u beddau,—a'u plant
A iawn gynhyrfant hwy i gain arfau.


Mae Pindar, oedd gâr gorwyllt,
A dawn ei gân o dân gwyllt;
Tyrtæus yn troi tuedd,
I roi clod i wyr y cledd
"O! (meddant,) p'le mwy addien,
Yn gwrr c'oedd, nag yw'n Groeg hen?
Ein gwlad fwyn, o glod a fu,
Unwaith, yn mawr dywynnu,
Eto'i gyd ytyw a'i gwedd,
A'i rhannau yn llawn rhinwedd
Ym mro bon y mae hir haf,
Bêr awel a byrr aeaf.
Yr haul y sy'n rheoli,
Heb roi haint, ar ei bro hi;
Mae nos, yn ei mynwesydd,
Megis chwaer ddisglaer i ddydd;
Aml y lle, ym mol ei llawr,
A mannau'r harddaf mynawr;
Hemætus felus y fydd,
A diliau mêl ei dolydd;
A'i ffrwythydd gwinwydd, fal gynt,
Di-odid mai da ydynt.

Holl natur bur heb wyro,
Sy'r un fraint i'r seirian fro,
A phan oedd, yn hoff ei nerth,
Briod-fan pob dawn brydferth.


"Yma gwir Ryddid, a'i mŷg aur roddion,
Sef celfyddydau a doniau dynion
Rhin a roi eil-oes i'r hen wrolion,
A gair odiaethawl i'w gorau doethion,
A wnaent gynt i helynt hon—anrhydedd,
Ynt, (ddi-hoff agwedd) o tan ddiffygion."

Wrth eu haraith, effaith ddig,
Dawn y wlad, yn weledig,
Fal yspryd tanllyd o'u tu,
A wnae'n anadl enynnu,—
Gan ddangos, yn achos Ner,
A'i fendith, a'i gyfiawnder,
Y mawr fri o dorri'r dîd,
I ymroddi am Ryddid.


Pwy ar alwad, a piau wroliaeth,
Ni ddaw i'w dilyn, a nawdd o'i dalaeth,
A rhin fal arwyr yr hen filwriaeth,
Draw a hwylient i Droia ehelaeth,
Os y goll o Ryddid sy' gwaeth—na'r hen
Golled o Helen, gai hyll hudoliaeth?


Hen anghrist, un athrist oedd,
O'r tu arall i'r tiroedd,
A gododd,—gwaethodd drwy'r gad,
Ar fìloedd i'w rhyfeliad
Un oedd o'r rhai aneddant
Uffern boeth yn ei ffwrn bant,—
Hoffai lid a gofid gau,
A'i llwydd ydoedd lladdiadau;
Seirph tanllyd, gwaedlyd eu gwedd,
Gwenwynig, (gwae anhunedd)

Ei gwallt oedd,—a gwyllt eiddig,
Rhag hedd oedd dannedd ei dig;
Ei llygaid yn danbaid des
Oedd uffernawl ddwy ffwrnes;
A'u sylwedd, o'r iseloedd,
A'u mawr lid, tra marwawl oedd.


O! pa ryfel, a'i uchel ochain,
Dial a'i ofid, a dolefain,
O'i chodiad irad yn y Dwyrain,

'Fu'r un baich i fawrion a bychain;
Baban a mam (un ddamwain) lle cafodd,
Dieneidiodd o dan ei hadain.


Ond Duw'r hedd o'i ryfedd rad,
Yn 'diwedd, roi wrandawiad
I'w blant,—pan godent eu bloedd,
Dan ofid hyd y nefoedd
O Scio wylo, alaeth,
I'w glustiau'n ddiau a ddaeth;
A rhoes, Iôr y Groes, ar gri,
Dyst eirian o'i dosturi;
D'ai'n gymorth, da borth di-baid,
Nes i ryw'r Nazareaid,
Rai marwawl, er eu muriau,
Ac erfyn eu gelyn gau.


Angylion, genadon gwynion gannoedd,
Gyrrai i'w llywiaw, y gorau lluoedd,
Rhwygent y muriau, rhoi gwynt y moroedd
I'r ddi-ofn daran, hwyl ar ddyfnderoedd,
Llu'r Proffwyd dan arswyd oedd—pan welent,
Hwy draw a gilient i eu dirgeloedd.


Yn awr (a Duw'n ei wiriaw)
Golygwn ddwthwn a ddaw,—

Pan deflir, lluchir i'r llawr
Ddu arfawg anghrist ddirfawr;
A phan gair, yn hoff ei gwedd,
Gaer enwawg i'r gwirionedd
Drwy reol gwydrau'r awen,
Draw'r llwydd a welaf drwy'r llen;—
Llwydd oesoedd lluoedd Iesu,
Pan gânt y feddiant a fu
O ddiwall wlad addewid,
Heb gaethder, llymder, na llid.


Gyrr y Dwyrain, ac oer ia diroedd
Y dwfn eira, eu di-ofn yrroedd;
Gyrr y Deau hithau ei hieithoedd,
A Gorllewin ei gorau lluoedd;
Un fwriad a niferoedd—y fawr-blaid
O Groesadiaid, ac eres ydoedd.

Bydd ar dyrau Salem furiau,
Y banerau yn ben arwydd,
I'r tylwythau, ar eu teithiau
I le'u tadau, olud dedwydd;
Ar Fosciaid y blaid heb lwydd,—dyrchefir
Ac eres welir y Groes hylwydd.


A thi, Roeg, a'th ddaear wych,
A'th awyr brydferth hoew-wych,
A welir eto eilwaith,
Fal gynt, er rhyfelawg waith,
Yn llwyddo'n fronlle addysg,
A lle llawn pob dawn a dysg;
Byddi, heb nam, yn fam faeth
I rinwedd—i wroniaeth—
I ddidwyll gelfyddydau,
Pob llwydd, a wna pawb wellhau;
I bob mâd gariad gwladawl,
A fu gynt dy fwya' gwawl.


Ac iawn adferir, gwnn, dy furiau,
Dy awen, llwynydd, dy winllanau,
Dy brif-ysgolion, dirion dyrau,
Lleoedd doethion ddynion o ddoniau;
Sparta hen, Athen hithau—a gant lwydd,
A fydd ddedwydd o gelfyddydau.


Darlunir hyd ar lenni,
A mynnir, gwn, o'th meini
Gelfyddyd byd heb oedi;
Y dynion a adweini,
Yn rhediad eu mawrhydi,
Yn eil-oes, gwnn, a weli;
Eu cerf-ddelwau, lluniau llawn,
Fodd uniawn, a feddieni.


Llwydd, llwydd, a dawn rwydd, dan ryddid—eto
Iti a chalondid
Yn y byd hwn, na boed tid
Dan nefoedd yn dynn ofid.

Ond aed (ac O! nad oeded)—lywodraeth
Ddi-ledryw gwlad Alffred,
A'i moliant i ymweled
A thir y Gryw, a thrwy Gred.

Y Rhyddid sydd gyd-raddawl,—oll hydrefn
A llywodraeth wladawl,
Sydd dda;—a chyd-gerdda gwawl
Gair yr Iesu, gwir rasawl.


A llwydd Dduw iddi, a lleoedd heddwch,
Gyrred allan o'i gaerau dywyllwch
I ni y mae digon yma o degwch
Gael in', a'i hurddas, Gwalia'n ei harddwch;
Nes troi'n glynnau'n fflamau fflwch,—a'n creigiau,
Llonned ei dyddiau'n llên â dedwyddwch.

Nodiadau[golygu]

  1. Yr arwyddair dan Loer arian y Twrc yw,—"Nes llenwi hol ddaear."