Gwaith Alun/Maes Garmon

Oddi ar Wicidestun
Rhywun Gwaith Alun

gan John Blackwell (Alun)

Bywyd yn Aberiw


MAES GARMON.

Rhagymadrodd

Boed Hector flaenor a'i floedd,
Eirf Illium a'i rhyfeloedd,
Groeg anwar mewn garw gynnen,
Bynciau y per Homer hen;
Hidled Virgil, wiwged was,
Wîn awen uwch Æneas;
Gwnaed eraill ganiad eurwedd
Am arfau claer,—am rwyf cledd,
Byllt trwy dân gwyllt yn gwau,
Mŵg a niwl o'r magnelau;
Brad rhyw haid, a brwydrau hen,
Oes, a phleidiau Maes Flodden; [1]
Gwarchau, a dagrau digrawn,
Cotinth a Valencia lawn, [2]
Eiliant bleth, a molant blaid
Gywreinwych ei gwroniaid.

Mae gennyf yma i ganu
Fwy gwron, sef Garmon gu;
Ag eirf dig eu gorfod oedd,
Gorfodaeth braich gref ydoedd;
Hwn gadd glod a gorfodaeth
Heb ergyd na syflyd saeth;
I lu duwiol a diarf
Yn wyrth oedd,—ac heb nerth arf;
Duw yn blaid, a wnae eu bloedd
Heibio i ddawn y byddinoedd.

Hwyrddydd ar y Môr

Y dwthwn 'raeth cymdeithas
Gwyr Rhufain, o Frydain fras,
Ar hwyrddydd o ryw harddaf,
Mwyna 'rioed yn min yr haf;
E giliai'r haul, glauar hin,
Ag aur lliwiai'r Gorllewin;
Goreurai gyrrau oerion,
Ferwawg a del frig y donn;
Holl natur llawen ytoedd,
Ystŵr, na dwndwr, nid oedd;
Ond sibrwd deng ffrwd ffreudeg
Llorf dannau y tonnau teg;
A'r tawel ddof awelon,
Awyr deg ar warr y donn;
Tôn ar dôn yn ymdaenu,
Holl anian mewn cyngan cu,
Gwawr oedd hyn, a gyrr i ddod,
Ac armel o flaen gwermod;
Cwmwl dwl yn adeiliaw,
Oedd i'w weled fel lled llaw.

Tymhestl


Ael wybren, oedd oleubryd,—a guddid
Gan gaddug dychrynllyd,—
Enynnai yr un ennyd,
Fel anferth goelcerth i gyd.
Môr a thir a'u mawrwaith oedd,
Yn awr, fal mawr ryfeloedd;
Mawr eigion yn ymrwygo,
Ar fol ei gryf wely gro;
Archai—gan guro'i erchwyn,
A'i dwrw ffrom—dorri ei ffrwyn;

Ymwân Udd[3] uwch mynyddoedd,
At y Nef yn estyn oedd;
Dynoethid yna weithion,
Draw i'r dydd, odreu'r donn;
Dodwodd y cwmwl dudew
Ei genllysg i'r terfysg tew;
A'r gwyntoedd rwygent entyrch,
Neifion deifl i'r Nef yn dyrch;
Deuai nos i doi y nen,
Duai'n ebrwydd dan wybren;
Ac o'r erchyll dywyll do
Tân a mellt yn ymwylltio;
Taranent nes torwynnu
Y llynclyn diderfyn du.

Yn mysg y terfysg twrf-faith
Gwelid llong, uwch gwaelod llaith,
Yn morio yn erbyn mawr-wynt,—
Môr yn dygyfor, a'r gwynt
Wnai'r hwyliau'n ddarnau'n ei ddig,
A'r llyw ydoedd ddrylliedig;
Mynedyddion mwyn doddynt,
Eu gwaedd a glywid drwy'r gwynt;
Llef irad a llygad lli,
Y galon ddewra'n gwelwi;
Anobaith do'i wynebau,
Ac ofn dôr y gwyllt-fôr gau,
Gwynnodd pob gwep gan gynni,—
Llewygent,—crynent rhag cri
Gwylan ar ben'r hwylbren rhydd,
"Ysturmant yr ystormydd!"
A mawrwych galon morwr,
Llawn o dân, droai'n llyn dŵr;

Llw fu'n hawdd, droe'n llefain O!
A chân elwch yn wylo.

Garmon a Bleiddan

Yn mawr swn ymrysonau
'R tro, 'roedd yno ryw ddau
Llon hedd ar eu gwedd hwy gaid,
A chanent heb ochenaid
Un Garmon, gelyn gormail,
A Bleiddan ddiddan oedd ail;
Gwelent drigfannau gwiwlon,
Ac iach le teg, uwchlaw tonn,—
Lle nad oes loes, fel isod,
Nac un westl dymestl yn dod;
Eiddunent hwy Dduw anian,—
Traethaf a gofiaf o'r gân.

"Hyd atad, ein Duw, eto,
Dyneswn, edrychwn dro;
Rhown i ti, rhwng cernau tonn,
Hael Geli, fawl o galon;
Rhued nawf, nis rhaid i ni,
Uwch ei safn, achos ofni
Y lli dwfr sy'n y llaw dâu,—
Dy law, 'n Ion, a'n deil ninnau.

"Ti yw arweinydd y taranau,
Tefli y sythion fellt fel saethau,—
Gan roi, a dwyn, dy ffrwyn yn ffroenau
Anwar dymestl,—mae'n wir diamau
Yng nghynnen yr elfennau—rhoddi'r gwynt,
Gelwi gorwynt,—neu gloi ei gaerau.

CARTREF GWYN
"Gwynnach, oerach, dwyfron Rhywun."

—————————————

"Y môr uthr udawl, a'i dra mawr ruthriadau,
Y sydd fel moelydd uwch y cymylau;
Yr wyt ti, Ynad, ar warr y tonnau,
Yn trefnu hynt y chwerw-wynt i chwarau;
Cesgli'r gwynt chwyrn i'th ddyrnau,—yn sydyn,
Arafa wedyn bob cynhyrfiadau.

"Pa ragor in' for yn fedd
Na gwaun dir i gnawd orwedd?
Cawn i'th gôl o farwol fyd,
Yn nydd angeu'n hawdd ddiengyd,—
Mae'n calon yn boddloni
I uniawn drefn Un yn Dri."

Pan ar ben gorffen y gân
Y terfynai twrf anian;
Clywai'r Un sy'n cloriannu
Rhawd, o'r ser i'r dyfnder du
Arafodd, llaesodd y lli,
Trychineb, a'r trochioni;
Môr a nen ymyrrai'n ol,
I ddistawrwydd ystyriol;
Deuai hwyl a da helynt
Y donn yn gyson â'r gwynt;
Mewn un llais rhoent hymnau'n llon,
I'r hwn a roes yr hinon;
Yna y chwai dorrai dydd,—
Dyna lan Prydain lonydd.
Doe'r llong, ar ddiddan waneg,
I ben y daith—Albion deg.


Prydain yn 429

Hîl Gomer yr amser hyn,
Oedd o nodwedd anhydyn;
Amryw nwyd wnae Gymru'n waeth,
Mawr gynnen, a Morganiaeth;
Gwyr digariad i'w goror,
Lanwai â cham, lan a chôr
Rhai ffol yn cymysgu'r ffydd
A choelion am uchelwydd;
Gwadu Crist, neu gydio'u cred
Ar glebr am "dreiglo abred";
Pictiaid, Ysgotiaid, weis cas,
Ruthrent, lunient alanas;
A Phrydain heb undeb oedd,
Na llyw wrth ben ei lluoedd;
Y llysoedd, yn lle iesin
Farnu gwael, oe'nt defyrn gwin;
Brad amlwg, a brwd ymladd,
Gorthrech, cri, llosgi, a lladd,
Wnae Albion,—â'u troion trwch
Yn ail i ryw anialwch.

Taith y ddau

Y teulu apostolaidd
Eu bron, cyn gorffwyso braidd,
Drwy'r wlad, ar waith clodadwy
Eu Tad, ymegnient hwy.


Gan foreu godi,—rhoddi'n rhwyddion
Fyrr o Gilead wrth friwiau gwaelion;
Digyrith bleidio gwirion—rhag gwrthdrin,
Rhoi llaeth a gwin i'r llwythau gweinion.

Cynhadledd a'r Morganiaid

Iselaidd furiau Salem
Godent, ac urddent â gem;
A gem y ddau ddegymydd,
Fu aur a ffurf y wir ffydd;
Gemau'r gair, disglair, dwys,
Yw parwydydd Paradwys;
Er gogan, a phob anair,
Dysgent, pregethent y gair,
Nes cwnnu'r llesg gwan o'r llaid,—
Taro'r annuw trwy'r enaid
Lle blin a hyll o'u blaen oedd,
Ail Eden o'u hol ydoedd;
O flaen rhain, diflannu'r oedd
Heresiau mwya'r oesoedd;
Tost iawn chwedl i genedl gam
Fu'r holiad yn Verulam
Ugeiniau o'r Morganiaid,
Ddynion blwng, oedd yno'n blaid
Llwyddai Ion y dynion da,
Er c'wilydd Agricola;
Ar air Ion, i lawr yr aeth
Muriau gweinion Morganiaeth.


Dynion oedd dan adenydd—ystlumaidd
Gwestl amhur goelgrefydd;
Ymagorai'r magwrydd,
Gwelen' deg oleuni dydd.


Morganiaid er mawr gynnwrf,
Hwynt yn eu llid droent yn llwfr;
Yna'r dorf anwar a dig,
At y gwyr godent gerrig,—
A mynnent bwyo 'mennydd
Y rhai ffol fu'n gwyro'r ffydd!

Ond y graslon Garmon gu
A ataliodd y teulu
Bleiddan, ar hynny, bloeddiai,—
"Clywch! eon, ry eon rai!
Pwyllwch, arafwch rywfaint!
Godde' sy'n gweddu i saint;
I'n Duw y perthyn dial,—
I'r annuw ein Duw a dâl;
Par ei farn am bob rhyw fai,
Llaw dialedd lle dylai.
Ond cafodd fodd i faddau,—
Drwy gur un—gall drugarhau;
Y garw boen, hyd gaerau bedd,
Agorai gell trugaredd;
A'n harch gwir, i lenwi'r wlad
Yn farn am gyfeiliornad,
Yw troi, o ras ter yr Ion,
Galonnau ein gelynion
I droedio wrth ddeddf dradoeth;
Dyn yn ddwl,—Duw Ion yn ddoeth.
Felly yn awr, dan wawr well,
Pob un ant tua'u pabell;
Nef uchod rhoed Naf i chwi,—
Mewn heddwch dychwelwch chwi."

Tra llefarodd, troell fawrwych
Anian droes yn iawn ei drych;
Y dymer ydoedd dwymyn
Dda'i yn ei lle,—toddai'n llyn.
Gwelent ei drwg—amlwg oedd,
A'u llid—mor fyrbwyll ydoedd;
Ust! tawelynt drwyddynt draw,
O dawelwch, doi wylaw.
'Nawr o'u dwrn yn ara' deg
Parai gwir gwymp i'r garreg;

Trwst y main, a'r ubain rhwydd
Dwys, a dorrai'r distawrwydd.
Yna'r gynulleidfa'n llon
Ddychwelent—(gwedd a chalon
Eto'n awr yn gytun oedd,)
Law yn llaw, lonna lluoedd.


Cyrraedd Ystrad Alun

Dau gennad gwyn! Wedi gwyl
Hwy gyrchent at eu gorchwyl.
Llafurient â'u holl fwriad,
Dan Iôr i oleuo'r wlad;
A'i dwyn hi dan ordinhad
Da reol, o'i dirywiad;
Dan y gwaith heb lid na gwg,
Trwy erlid, ymlid amlwg,
Doent wrth deithio bro a bryn,
I olwg Ystrad Alun;
Elai'r gwyr, gan eilio'r gân,
Drwy Faelor, oror eirian.
Hwyr hithau ddwyrai weithion,
Llwydai fry ddillad y fron;
Ucheron,[4] uwch ei chaerydd,
A'i t'wysai, pan darfai dydd;
Y lloer, a'i mantell arian,
Ddeuai un modd, yn y man;
Daeth o le i le fel hyn
Y faith yrfa i'w therfyn;
Nawdd Ior, ac arweinydd ddug
Y rhwyddgraff ddau i'r Wyddgrug
Lletyent mewn lle tawel,
Trigle dêr a mangre mêl;

Lle addas y lluyddwr
Rhufon, oedd yn union wr;
Un crefyddol, dduwiol ddawn,
Doeth, a'i gyfoeth yn gyfiawn;
Iachawdwr, a braich ydoedd,
Ac anadl ei genedl oedd;
I'w ardal deg, ateg oedd,
Llywiawdwr ei llu ydoedd;
Dau noddwr duwinyddiaeth,
Arfolli, noddi a wnaeth;
Eu siarad, am rad yr oedd,
A mesurau'r amseroedd;
Gwael greifion y goelgrefydd,
Rhannau a ffurf yr iawn ffydd;
A bro a'i hedd i barhau,
Uwch annedwydd och'neidiau;
Y duwiol hyfrydol fron
Ddiddenid â'u 'mddiddanion;
Rhufon er hynny'n rhyfedd,
Oedd o ddirgel isel wedd;
Son am loes sy'n aml isod,
A chael rhan uwchlaw y rhod,
Wnae'i fron der, yn nyfnder nod,
Chwyddo o ebwch ddiwybod;
Ei deg rudd, lle gwelwyd gwrid,
A ddeifiodd rhyw ddu ofid;
A dygai'r llef y deigr llaith
I'r golwg, 'nawr ac eilwaith.
'Roedd gwaelod y trallod trwch
I wyr Gallia'n ddirgelwch;
Hwy sylwent mai isel-wan
A dwl, oedd ei briod lân;
Beth fu'r anferth ryferthwy
Ni wyddent—ni holent hwy.


Yna, a'u bron heb un braw,
Hwy wahanent i hunaw;
Pwys y daith, mor faith a fu,
A'i gwasgodd hwynt i gysgu
Edyn Ion, rhag troion trwch,
A'u mantellynt, mewn t'wllwch.


Yn bur a gwyneb araul,
Cwnnu yr oedd cyn yr haul
Y ddau deg, ddifreg o fryd,
A Rhufon hawddgar hefyd;
Rhodient i wrando'r hedydd
Gydag awel dawel dydd,
Hyd ddeiliog lennydd Alun,
I weld urddas glas y glyn;
Clywent sibrwd y ffrwd ffraeth
Yn dilyn hyd y dalaeth;
Y gro mân ac rhai meini,
Yn hual ei hoewal hi.


Agorir dorau goror y dwyrain,
Yna Aurora sydd yn arwyrain;
Nifwl ni 'merys o flaen ei mirain
Gerbyd llachrawg, a'i meirch bywiawg buain,
Ewybr o gylch y wybr gain—teifl gwrel,
A lliwia argel â'i mantell eurgain.

Yna deffrodd awelon y dyffryn,
Ae' si trwy y dolau'n Ystrad Alun;
Haul drwy y goedwig belydrai gwed'yn,
Bu i Argoed hirell, a brigau terwyn,
D'ai lliw y rhod oll ar hyn—fel porffor,
A goror Maelor fel gwawr aur melyn.

Ar ei hadain, y seingar ehedydd
Fwria'i cherddi i gyfarch y wawr-ddydd;

Deffroai gantorion llon y llwynydd
I bereiddio awelon boreu-ddydd,—
A pher wawd i'w Creawdydd,—trwy'r wiw-nen,
O ferion awen,—am foreu newydd.


Bwrid ar hyn heb eiriach,
Ganiadau o bigau bach;
Eu glwys-gerdd lanwai'r glasgoed,—
Caniadau rhwng cangau'r coed;
Gwna bronfraith dasg ar las-gainc,
Trwsio'i phlu a chanu'i chainc.


Yna llon ganai llinos—i gynnal
Cerdd geinwech yr eos,
Ymorau heb ymaros,
I Geli am noddi'r nos.


A seiniai, pynciau pob pig
I'w Creawdwr caredig;
Nes yr aeth yn mhen ennyd
Yr wybr fan yn gân i gyd.

Esgynnent, troent eu tri
I balawg Fryn y Beili,
I weld y wlad,—ferthwlad fau,—
Rhedai Alun trwy'i dolau
Dyffrynol, breiniol a bras,
Oll yn hardd a llawn urddas;
Duw Celi oedd gwedi gwau
'N gywrain eu dillad gorau;
Deor myrr, neithdar, a mêl,
Yn rhywiog a wnae'r awel;
Aroglai'r manwydd briglas,
Y bau a'i chwrlidau'n las;
A diffrwyth lysiau'r dyffryn
Gwlithog, fyrdd, mewn gwyrdd a gwyn.

UN O HEOLYDD CAERWYS

"Rhoes Groeg hen, a'i Hathen hi,
Awr i Gaerwys ragori."

—————————————

Ebrwydd, y corn boreubryd
Alwai 'ngwrth y teulu nghyd;
Teulu y castell telaid,
'Nol porthi, mewn gweddi gaid.

Rhufon a yrrai hefyd
Efo'r gweis, trwy'r fro i gyd,
Am neges em enwogion
I weled tir y wlad hon,—
Yr eilient yn ochr Alun
Araeth am gadwraeth dyn;
A'u bod am weini bedydd
Yn ael y dwfr, ganol dydd;
Ag awydd ferth, gweddai fod
Bawb ynaw â'u babanod;
Mai bechan y Llan oll oedd
I gynnwys amryw gannoedd.


Gofid Rhufon

Felly aent o'r arfoll hon
Eu tri, i'r gerddi gwyrddion;
Mawl i Dduw roent mewn teml ddail,
Gwedi 'i gwau gyda gwiail;
Ei lloriau, â gleiniau glwys,
B'rwydid fel ail Baradwys;
Sonient, with aros yno,
Am och a brad,—am uwch bro,—
Lle na ddel gwyll neu ddolef,—
Am urdd yn Nuw,—am ardd Nef,—
Gardd o oesol radol rîn,
A'i haberoedd yn bur-win.

Rhufon, dan ofid rhyfawr,
Ni ddywedai—ofynnai fawr;

Danghosai' liw, nid gwiw gwad,
Loes erwin uwchlaw siarad;
O'r diwedd, 'nol hir dewi,
Ochenaid, a llygaid lli,
A'i ddagrau, fel rhaffau'n rhydd,
O'i lygaid yn wlawogydd,—
Tan grynnu'i fant yn graen, fo
Gwynai alaeth gan wylo,

"Enwogiawn, mi wn agos
Rhaid i 'null ar hyd y nos
Ddangos fod saeth gaeth, a gwg,
Drwy'r galon draw o'r golwg;
Y ngrudd gref, lle gwingodd graid,
Llychwinodd aml ochenaid;
Grym y groes, a dagrau'm gwraig,
Dyrr wên y diarynaig.
Mynegaf i'm henwogion
Hanes fy mriw—naws fy mron,
A'r achos o'm hir ochi,—
Yr oedd mab iraidd i mi;
Delw i'r holl ardaloedd,—
Eu tegwch a'u harddwch oedd;
'R oedd ei rwydd daclusrwydd clau,
A'i lun nerthol yn wyrthiau;
A gwên hoff lawen a fflwch,
Ireiddiwch ar ei ruddiau.

"Dau lygad ei dad ydoedd,
Un enaid â'i enaid oedd;
Rhyw adyn ei rwydo wnaeth
A'i swynion, i gamsyniaeth,—
Un tonnawg anghytunol
Droes allan, a phagan ffol;
Ac oerodd ei holl gariad
At wir Duw,—at eiriau'i dad;

Hynny fagodd genfigen,
Yr un dydd yn ei fron denn,—
Lle cadd hen genfigen faeth,
Ddylanwodd o elyniaeth,—
Ae'n greulon, anfoddlon fab,
Fu'n wâr anwyl ireiddfab;
Y diwedd oedd—gadodd ef
Mewn gwg,—huddwg ei haddef,
Gan addaw dod, diwrnod du,
A dialedd i'w deulu;
Gwauai y dwrn,—rhegai' dad,
O'm Duw! fath ymadawiad!
Er gwae im', rhwygai ymaith—
Na ŵyr ond Ion ran o'i daith;
Nis gallaf, dan drymaf dro,
Ond trist ruddfanu trosto.

"O'r diwrnod bu'r du ornwaith,
Ni chenais, ni cherddais chwaith,—
Picellau drwg ofnau gant,
Y fron wirion fraenarant
Na welir hwn, wylo'r wyf,—
Ac wylo rhag ofn gwelwyf
Etifedd gwae! tyfodd gwŷn
Diymarbed i'm herbyn;
Funud ni phrisiaf einioes,—
Aeth yn faich holl ddwthwn f'oes!
O Angeu! torra f'ingedd,
'Rwy'n barod, barod, i'm bedd."

Eto y toddai natur
Yn ddagrau fel perlau pur;
Delwai, mudanai'r dynion,
Gyda'u brawd gwaedai eu bron;
Pwyntient fys at lys hael Iôn—
Lle o allu ellyllon.

Synnent, ac edrychent dro,
Eilwaith cymysgent wylo
Addysgid y ddau esgob
Felly'n null cyfeillion Iob;
I ganfod fod llym gwynfawr
Bwysau ei ofidiau'n fawr.


Y Gynulleidfa

Ar hyn d'ai gwas addas wedd,
Mynegai mewn mwyn agwedd,
Fod nifer, yr amser hyn,
Ar ddolau iraidd Alun;
A'u disgwyliad dwys gwiwlon
Am glywed clau eiriau'r Iôn.

Sychu oedd raid y llygaid llaith,
O fwriad at lafurwaith
O'r deildy tua'r doldir
Yr elent hwy trwy lawnt hir;
A gwelent wâr, liwgar lu,
Yn gannoedd yno'n gwenu.
O ddisgwyl y ddau esgawb,
A gwyneb pur gwenai pawb,
O oedran diniweidrwydd,
Y'mlaen, hyd i saith-deg mlwydd;
Rhai ieuainc, mewn chwidr awydd
Yn chwarau ar geinciau gwydd;
Arafaidd d'ai'r gwyryfon,
Yn weddaidd, llariaidd a llon;
Oeswyr, a phwys ar eu ffyn,
Hulient dorlennydd Alun;
Doethaidd eu dull i'r dwthwn,
Eistedd wnai'r gwragedd yn grwn;
Pob mam lân a'i baban bach,
Ryw hoenus,—a rhai henach,

A geisient gael eu gosod
Dan sancteiddiol nefol nôd;
'Nawr mewn trefn, tu cefn i'r cylch,
Gan ymgau'n gain o amgylch,
Y deuai holl wrandawyr
Y graslon enwogion wyr.

Ar ddeulin yr addolynt
Yr Oen hoeliwyd, gablwyd gynt;
A Bleiddan, drwy fwynlan fodd,
Ar Dduw a hir weddiodd;
Eiddunodd newydd anian,
A mawr les, i Gymru lân;
I beri hedd, nes byrhau
Ochain hon a'i chynhennau,—
A throi i'r wir athrawiaeth
Rai'n ol, ar gyfeiliorn aeth;


Ac yna, na cha'i Morganiaeth,—na gwenwyn
O geuneint Derwyddiaeth,
Fwrw'u dilyf ar dalaeth,
Yn hwy'n lle manna a llaeth.


Bedyddio wnaent—(byd dd'ai'n wyn)
Wyr mewn oed,—rhai mân wedyn;
Yna'r sant 'nol gweini'r swydd
Ystyriol—mewn distawrwydd,
Yn ei wisgoedd wnai esgyn
I ochr llethrawg, frithawg fryn;
Ac eurmyg lleuai Garmon,
A'i dafod aur, eiriau'r Ion;
Gwrthbrofi, dynodi wnaeth
Amryw gynneiddf Morganiaeth;
Mor ffraeth ei araeth euraidd,—
Enaid a grym hyd y gwraidd;

Y llu ddaeth i gablu gwyr,
Hwy ddeuent yn weddiwyr
Trwy'r gair llym y troir gerllaw
Annuwiolion i wylaw;
Pan felltenai Sinai serth
I gydwybod,—gwaed aberth
Wna'i fellten a fa'i wylltaf
Ddiffodd, yn hedd ffydd yn Naf;
Agorai wefus gwrel,
A'i fant a ddyferai fêl;
Drwy lawn gainc, darluniai gur
Tad a Cheidwad pechadur,—
Yr iawn a ro'es, drwy loes lem,
Croeshoeliad Oen Caersalem;
Ban dug, trwy boenau dygyn,
Fodd i Dduw faddeu i ddyn;—
Ei araeth gref am wyrth gras
Wnai un oer bron yn eirias.


Dychryn y ffoaduriaid

Ynghanol y dduwiol ddysg,
Clywid cynnwrf, twrf terfysg;
Llefau galar gyda'r gwynt,
Sitwyr yn neshau atynt!
Ar hyn, dyna ofngar haid
O derydd ffoaduriaid,—
Lu gwael o liw—ac ael wleb,
A gwannaidd oedd pob gwyneb
"Daeth," dyhenent d'wedent hwy,
"Awr hyf warth a rhyferthwy;
Mae Saison, anunion wyr,
A brathawg lu y Brithwyr,
A'u miloedd dros dir Maelawr,—
Gwelsom fin y fyddin fawr!

Temlau a thai llosgai'r llu—
Nen a magwyr sy'n mygu;
Ha! erlidiant ar ledol
Y rhai ddaeth yn awr i'r ddôl;
Clywch dôn anhirion eu nâd,
Ffown, ffown! am amddiffyniad."

Y gair, fel loes gwefrawl, a
Darfodd pob rhan o'r dyrfa;
A chwerw nod dychryniadau
Oedd yn eu gwedd hwy yn gwau;
Mewn ofnawl, ddidawl ddadwrdd,
Mynnent ymroi, ffoi i ffwrdd;
Ond Rhufon, drwy fwynlon fodd,
Un teilwng, a'u hataliodd—
Nad oedd y fyddin, erwin hynt,
Eto yn agos atynt
Enynnodd aidd hen anian
Y milwr dewr, mal ar dân.


Milwr a Sant

"Rhyfel!" dolefai Rhufon,
Ag araul fryd gwrol fron,
"Heddyw fy hen gleddyf hir,
I ddwyn aeth a ddyncethir;
Gwnaf wyrthiau trwy gnif erthwch—
Gwnaf weld eu llu'n llyfu'r llwch;
Codwn, arfogwn fagad
O wrol wych wyr y wlad;
A'm milwyr a'u hymwelant,
Pob gwr fydd gonc'rwr ar gant;
Wyf Rufon, er f'oer ofid,
A ddeil arf drwy dduwiol lid;
Terwyniant ein tariannau
Ni ddeil bron y gâlon gau;

Heno o'u balch lu, ni bydd
Un i leidio'n haelwydydd;
Trwy ryfel dihefelydd,
Ac enw Duw,—cawn y dydd!
Y'mlaen! pur yw'n hantur hon!"
"Arafa, danbaid Rufon!"
Eb Garmon,—"Er pob gormes
Yn fur prawf, yn farrau pres,
Mae telid gadernid Iôn
Is awyr o gylch Seion;
Ei phen a'i hamddiffynydd
Yw'r Duw sy'n Greawdwr dydd;
Ein hiawn bwys yn hyn, O bid
Ar Dduw a'i wir addewid;
A Duw a'n cyfyd ni, cofiwn,
Y diwedd o'r hadledd hwn;


"Y Duw a barai fod aberoedd
O sawr diliau, mewn cras ardaloedd,
I gynnal ei blant gannoedd,—â dwfr fal
Gwawr y grisial o graig yr oesoedd,
Ac a lywiai Iago a'i luoedd
Mawr a difraw, rhwng muriau dyfroedd,—
A Pharaoh a'i anhoff yrroedd—wnai gau
O fewn dorau y gorddyfnderoedd;
Y Duw hwnnw gyfyd hinon
Awyr dawel, o oriau duon,
Dilai gwared ei deulu gwirion
Rhag galanas a rhwyg gelynion;
Y Duw fu'n blaid Gedeon, rwystra i yrr
Yr un o'r Brithwyr wanu'r Brython."


Trwy galon Rhufon yr aeth
Cywir donau crediniaeth;
Distawodd, lleddfodd y llu,
Eu gwelw wawr a'u galaru;

Heb ddal ynni, boddlonynt
I weision Ior hwylio'r hynt.

Hwy roddent gyfarwyddyd
Am hwyl y gorchwyl i gyd.

Ag ysgafn droed i goed gwydd,
Encilient dan y celydd;
Rhufon hoff, er mwyn cloff, claf,
Anwylaidd, safai'n olaf;
A thawel gynorthwyai
Y gweinion efryddion rai.

Yn ol dod dan gysgod gwig
I gyd, ar lawr y goedwig,
Plygent lin, ac â min mel
Yn ddwys mewn gweddi isel
Yn ysbaid hyn, os bai twrf,
Ochenaid lesg, a chynnwrf,—
Codai Garmon lon ei law,
Agwedd Ust! ac oedd ddistaw.

Er gwersi, er gweddi'r gwyr,
Er teg osteg, ac ystyr,—
Gwael agwedd y golygon
Ddwedai fraw y ddiwad fron.

Ar hyn, dyna'n syn neshau
Athrist dwrf, a thrwst arfau;
Lwyrnych estronawl oernad,
Croch gri, a gwaeddi,—"I'r gâd";—
Yr waedd oedd yn arwyddaw
Fod gâlon llymion gerllaw

Yna y treigl swn eu traed,
Yn frau o fewn cyrrau'r coed,—
Lleng a'u gwich am ollwng gwaed
Gwyr o ryw hawddgara 'rioed.


Adeg alarus ydoedd,
Ac awr heb ei thebyg oedd;
Awr gerth, na ddileir o go',
Ac awr calonnau'n curo;
Y goch ffriw aeth a'i lliw'n llwyd,
Dewr wedd ae'n orsedd arswyd.

Trwy'r ddôl y gelynol lu,
Groch anwar, wnai grechwenu,
Er dannod gwarth Prydeinwyr,—
(Rhy fuan gogan y gwyr.)

Gan ymnerth, ac un amnaid,
Yn llu yn awr, oll 'e naid
Y Brython,—yn llon eu llef,
Unllais, ac adlais cydlef,
Germain oedd, rho'i Garmon air,
Addasol ei ddewisair,—

</br

Haleluia! Haleluia! lawen,
Ar y gair, ebrwydd y rhwygai'r wybren,
Creigiau,—a chwedi pob crug a choeden
Yn y dyspeidiad oedd yn d'aspeden;
A'r engyl yn yr angen—yn uno,—
A gawriai yno holl gôr y wiw-nen.

</br

Chwai hyrddiwyd gâlon chwerw-ddull,
Dychrynnent, ffoent mewn ffull.

"Frithwyr ffel! beth yw'r helynt?
Dewch i gâd,—ymffrostiech gynt!
Hai! ffwrdd! codwch waewffyn,
Hwi'n golofn,—dacw'n gelyn!
Ymrestrwch,—troediwch mewn trefn,
Och! enrhaith! beth yw'ch anrhefn?"

</br

Unwaith ni wrendy'r annuw,
I'w dilyn mae dychryn Duw;
Eu heirf serth, yn y twrf sydd,
Wana galon eu gilydd;—
Astalch i astalch estyn,
A chledd sydd yng ngledd y'nglŷn.

Clywai Alun destun da,
Alawon Haleluia;
A chiliodd dros ei cheulan,—
Hi droes lif ar draws y lan;
A mynnent hwy, er maint hon,
Yn eu braw, rwyfaw'r afon
I dawch Alun dychwelynt,—
Aeth hon fel y Gison gynt
A mawr dwrdd—ym merw'r donn,
Cell agerdd cylla eigion
Gwenodd Alun, gwyn ddiluw,
Gael yno dorf gâlon Duw;
Llafuriodd y llifeiriaint,
Gyda si, i gadw y saint;
Sugnai'r llyn y gelyn gau,
Gwingodd dan grafanc Angau.

O foreu dwl, ar fyrr daeth
Gwawr deg o waredigaeth;
'Nawr gwelai'r Cymry'r gâlon,
Yn soddi is dyli'r donn;
Gan wau yn dyrrau dirif,
A swn eu llais yn y llif;
Llifeiriant a i holl farrau,
Tonnau certh, arnynt yn cau—
Nodent nad oedd mewn adwy,
Glan, na maes, un gelyn mwy;
Prin coelient—safent yn syn—
Ddolef eu ciaidd elyn.


Dyferai eu clodforedd,
Drwy'r glynnau yn hymnau hedd;
Ac yn eu plith canai plant,
Swn melus atsain moliant.

Yna'r saint mewn eres hwyl
A anerchent,—iawn orchwyl—
Araf lef i'r dyrfa lân,
Dorrent ollyngdawd eirian.

"Ein Ner, mewn blinder, fu'n blaid
I'w wâr union wirioniaid;
Duw'n y blwng wrandawai'n bloedd,—
Boddai yna'r byddinoedd.

"Eurawg olwynion hen Ragluniaeth,
Barai'r dolydd, y wybr a'r dalaeth,
I wyrthiol adsain germain gaeth,—Alun
Foddai y gelyn,—caem fuddugoliaeth.

"Duw Ner roes yr hoewder hwn,
I'n Duw eilchwaith diolchwn;
Llawforwyn fu'r llifeiriant,
Gyda bloedd i gadw ei blant.

"Iolwn na byddo'i wiwlwys—ogoned,
Ac enaint Paradwys,
Gilio oddiar Gwalia ddwys,
Na'u aroglau o'r Eglwys.

"Duw'r hedd fo'n eich harwedd chwi,
Drwy genedl lawn drygioni;
A chwedi oes heb loes lem,
Noswyliaw boch yn Salem."

Hwy wahanent ar hynny,
Heb wybod ofn,—bawb i'w dŷ;
A'r lleddf ddau genadwr llon
Draw hefyd i dŷ Rhufon.


Ac ar hwyl deg, yr ail dydd,
Dwyrëent mewn dir awydd,
I rodio i lawr at ffrwd lâs,
Glennydd lle bu galanas
'Nawr aber, fel arferol,
Ydoedd hi ar hyd y ddol;
Ciliai'r dylif, clwy'r dylaith,
A'i dwrf oll, pan darfu'i waith;
Dai'r ardal yn dir irdeg,
Lle berwai tonn, ddai'n llwybr teg
Gwelent hwy, wrth geulan tonn,
Gelanedd eu gelynion;
Yn dyrrau, 'n rhesau di ri,
O'r Belan hyd i'r Beili.

Gwelai Rhufon dirionwawr,
Ar hyn, ryw lencyn ar lawr.
Ei ddull, ei wedd, a'i ddillad,
A'i lun, oedd fel un o'r wlad.
Craffai arnaw—draw fe drodd,
A lliw egwan llewygodd;
Oherwydd y tramgwydd trwm
A ddyrysodd ei reswm;
Drwy'i galon a'i dirgeloedd,
Safai bâr,—can's ei fab oedd;
Ei deulu o'i ddeutu ddaeth,
Gan weled ei ddygn alaeth;
Rhoent uwch ei fab, drygfab,—dro
Eu ced olaf,—cyd-wylo;
Uchel oernych alarnad
Wrth ei ddwyn fry i dŷ i dad
(Gwyddent mai dilyn geu-dduw,
A dal dig, a gadael Duw,—
Trwy lithiol rai ffol, di-ffydd,
Wnai ei ddwyn i'w ddienydd!)


Hwy ddeallent, modd hollol,
A ddwedai, 'nawr, am ddod'n ol,
Ryw ddiwrnod, a dyrnod du
Dialedd ar ei deulu.

Iddo fe gwnaed angladd fawr,
Hir wylwyd ar ei elawr
(Mae natur bur ei bwriad
A maith ddeddf mewn mam a thad;)
Er brad, er braenaru bron
Ei rieni, rai union,—
Eto wylodd y teulu,
Am y mab, fel cynfab cu;
Ni pheidient am anffodion
A thranc gwas ieuanc, a son;
Ac a pharch gwnaent er cofthau,
Hel peraidd, lwysaidd lysiau;
Hel mwysion freila maesydd,
Hel blodau ar gangau'r gwŷdd;
Hel mawr ar lili mirain,
Hel y rhos ar ol y rhain;
Hel llawryf digoll irwedd,
Hela'r bawm i hulio'r bedd
A dagrau rhwydd, sicrwydd serch,
Mwydent, llenwent y llannerch.

Garmon, er cof mwynlon mad,
Gweddus, o'r holl ddigwyddiad,
O fewn y tir roes faen teg,
A geiriau ar y garreg;—

"Daw hinon, er llid annuw,
I'r dyn doeth a gredo'n Duw;
A dylaeth, barn, a dolef,
I'r adyn fo'n erbyn Nef."


Nodiadau[golygu]

  1. Flodden Field, by Sir Walter Scott.
  2. Siege of Corinth, by Lord Byron; and Siege of Valencia, by Mrs. Hemans.
  3. The English Channel.
  4. Hesperus, the evening star.