Gwaith Alun/Rhywun

Oddi ar Wicidestun
Eisteddfod y Wyddgrug Gwaith Alun

gan John Blackwell (Alun)

Maes Garmon


"RHYWUN."

Clywais lawer son a siarad
Fod rhyw boen yn dilyn cariad;
Ar y son gwnawn innau chwerthin
Nes y gwelais wyneb Rhywun.

Ni wna cyngor, ni wna cysur,
Ni wna canmil mwy o ddolur,
Ac ni wna ceryddon undyn
Beri im' beidio caru Rhywun.

Gwyn ac oer yw marmor mynydd,
Gwyn ac oer yw ewyn nentydd;
Gwyn ac oer yw eira Berwyn,
Gwynnach, oerach, dwyfron Rhywun.

Er cael llygaid fel y perlau.
Er cael cwrel yn wefusau,
Er cael gruddiau fel y rhosyn,
Carreg ydyw calon Rhywun.

Tra bo clogwyn yn Eryri,
Tra bo coed ar ben y Beili,
Tra bo dwfr yn afon Alun,
Cadwaf galon bur i Rywun.

Pa le bynnag bo'm tynghedfen,
P'un ai Berhiw ai Rhydychen,
Am fy nghariad os bydd gofyn,
Fy unig ateb i fydd—Rhywun.

Caiff yr haul fachludo'r borau,
Ac a moelydd yn gymylau,—
Gwisgir fi mewn amdo purwyn
Cyn y peidiaf garu Rhywun.

Nodiadau[golygu]