Gwaith Ann Griffiths/Hymnau

Oddi ar Wicidestun
Rhosyn Saron Gwaith Ann Griffiths

gan Ann Griffiths

O Lyfrau Argraff

Y peth nesaf ar yr ysgriflyfr yw "pregeth ar Habacuc 1. 13, gan John Hughes, pregethwr yr efengyl yn sir Drefaldwyn, Hydref 22, 1805."

Yr oedd Ann Griffiths wedi ei chladdu Awst 12, 1805. Y mae'n amlwg felly, pod bron yr oll or emynnau hyn wedi eu hysgrifennu cyn ei marw.

Tua diwedd yr ysgriflyfr, ar ol aralleiriad o Ganiad Solomon, ceir yr hymnau sy'n canlyn.


HYMNAU.

HYMN 1.

OH am dreiddio i'r adnabyddiaeth

1. OH am dreiddio i'r adnabyddiaeth
O'r unig wir a'r bywiol Dduw,
I'r fath raddau a fo'n lladdfa
I ddychmygion o bob rhyw ;
Credu'r gair sy'n dweud am dano,
A'i nattur ynddo, amlwg yw,
Yn farwolaeth i bechadur,
Heb gael iawn o drefniad Duw.

2. Yn yr adnabyddiaeth yma,
Mae uchel drem yn dod i lawr,
Dyn yn fach, yn wael, yn ffiaidd,
Duw'n oruchel ac yn fawr;
Crist yn ei gyfryngol swyddau,
Gwerthfawr anhepgorol yw,
Yr enaid euog yn ei olwg,
A'i gogonedda megis Duw.

{{c|Y MAE'R Duw anfeidrol mewn trugaredd

HYMN 2

1. Y MAE'R Duw anfeidrol mewn trugaredd
A'r Duw y cariad yw,
Wrth ei gofio, imi'n ddychryn,
Imi'n ddolur, imi'n friw;
Ond yn mhabell y cyfarfod,
Y mae fe ... 'n llawn o hedd,
Yn Dduw cymmodlon wedi eistedd,
Heb ddim ond heddwch yn ei wedd.

2. Yno mae fy mwyd a'n niod,
Fy noddfa a'm gorphwysfa wiw,
Fy meddyginiaethaeth a fy nhrysor,

Twr cadarn anffael .... yw;
Yno mae fy holl arfogaeth,
Yngwyneb fy ngelynion cas,
Y mae mywyd i yno yn guddedig
Pa wy i yn ymladd ar y maes.

3. Cael Duw'n Dad, a Thad yn noddfa,
Noddfa'n graig, a'r graig yn dŵr,
Mwy nis gallaf ei ddymuno
Gyda mi mewn tân a dŵr;
Ohono ef mae fy nigonedd,
Yno trwy fyddinoedd af,
Hebddo eiddil gwan a dinerth,
A cholli'r dydd yn wir a wnaf.

EI law aswy sy'n fy nghynal

HYMN 3.



EI law aswy sy'n fy nghynal,
Dan fy mhen yngwres y dydd,
A bendithion ei ddeheulaw
Yn cofleidio 'm henaid sydd ;
Tynghedaf chwi, bywsïau nattur,
Sy'n prydferthu daear lawr,
Na chyffro, hyd onid fyno,
Fy nghiariad a'm gogoniant mawr.

RHYFEDD, rhyfedd gan angylion

HYMN.

1. RHYFEDD, rhyfedd gan angylion
Rhyfeddod fawr yngolwg ffydd,
Gweld rhoddwr bod, cynhaliwr helaeth,
A rheolwr pob peth sydd,
Yn y preseb mewn cadach
Ac heb le i roi ben i lawr,
Yn etto disglaer lu'r gogoniant
'N ei addoli'n Arglwydd mawr.[1]


2. Pa bo Seinai i gyd yn mygu,
A swn yr utgorn Uwcha ei radd,
Caf fynd i wledda tros y terfyn,
YNghrist y Gair, heb gael fy lladd;
Mae yno 'n trigo bob cyflawnder,
Llond gwagle colledigaeth dyn,
Ar yr adwy rhwng y ddwyblaid
Gwnaeth gymmod trwy ei offrymu ei hun.

3. Efe yw'r Iawn fu rhwng y lladron,
Efe ddyoddef angau loes,
Efe a nerthodd freichiau ei ddienyddwyr,
I'w hoelio yno ar y groes;
Wrth dalu dyled pentewynion,
Ac anrhydeddu deddf ei Dad,
Cyfiawnder, mae'n disgleirio 'n danbaid,
Wrth faddeu yn nhrefn y cymmod rhad.

4. Of enaid, gwel y fan gorweddodd,
Pan brenhinoedd, awdwr hedd,
Y greadigaeth ynddo'n symud,
Ynte'n farw yn y bedd;
Cân a bywyd colledigion,
Rhyfeddod fwyia angylion nef,
Gweld Duw mewn cnawd a'i gydaddoli
Mae'r côr dan waeddi "Iddo Ef."

5. Diolch byth, a chanmil diolch,
Diolch tra bo ynwi chwyth,
Am fod gwrthddrych i'w addoli,
A thestyn cân i bara byth;
Yn fy nattur wedi ei demtio,
Fel y gwaela o ddynol ryw,
Yn ddyn bach, yn wan, yn ddinerth,
Yn anfeidrol wir a bywiol Dduw.


6. Yn lle cario corph o lygredd,
Cyd-dreiddio a'r côr yn danllyd fry,
I ddiderfyn rhyfeddodau
Iechydwriaeth Calfari;
Byw i weld yr Anweledig,
Fu farw ac sy'n awr yn fyw,
Tragywyddol anwahanol undeb,
A chymundeb a fy Nuw.

7. Yno caf dderchafu'r Enw
A osododd Duw 'n Iawn,
Heb ddychymyg, llen, na gorchudd,
A'm henaid ar ei ddelw'n llawn ;
Ynghymdeithas y dirgelwch,
Datguddiedig yn ei glwy,
Cusanu'r Mab i dragywyddoldeb,
Heb im gefnu arno mwy.

OS rhaid wynebu'r afon donog,

HYMN.

1. OS rhaid wynebu'r afon donog,
Mae un i dori grym y dwr,
Iesu, f'archoffeiriad ffyddlon,
A chanddo sicir afael siwr;
Yn ei gôl caf waeddi Congcwest
Ar angeu, uffern, byd, a bedd,
Tragywyddol fod heb fodd i bechu,
'N ogoneddus yn ei wedd,

2. Melys gofio y cyfammod
Draw a wnaed gan Dri yn Un,
Tragywyddol syllu ar y person
A gymerodd natur dyn;
Wrth gyflawni'r amodau
Trist iawn hyd angeu ei enaid oedd,
Dyma gân y saith ugeinmil
Tu draw i'r llen a llawen floedd.


3. Byw heb wres na haul yn taro,
Byw heb allu marw mwy,
Pob rhyw alar wedi darfod,
Dim ond canu am farwol glwy;
Nofio 'n afon bur y bywyd,
Diderfyn heddwch sangctaidd Dri,
Dan d'wniadau digymylau
Gwerthfawr . . . Calfari.

GWNA fi fel pren planedig

HYMN.

1. GWNA fi fel pren planedig, O fy Nuw,
Yn ir ar lan afonydd dyfroedd byw,
Yn gwreiddio ar led, a'i ddail heb wywo mwy,
Ond ffrwytho dan gawodydd dwyfol glwy.

2. Gwlad dda, heb wae, gwlad wedi ei rhoi dan sel,
Lilfeirio mae ei ffrwyth o laeth a mel,
Grawn sypiau gwiw i'r anial dir sy'n dod,
Gwlad nefol yw, uwchlaw mynegu ei chlod.

3. Jehofa yw, yn un a'i enw pur,
Cyflawnwr gwiw ei addewidion gwir ;
Mae'n codi ei law, cenhedloedd ddaw i maes,
Nodedig braw o'i rydd anfeidrol ras.

4. Cenhadon hedd, mewn efengylaidd iaith,
Sy'n galw i'r wledd dros for yr India faith;
Caiff Hottentots, Goraniaid dua ei lliw,
Farbaraidd lu, ei dwyn i deulu Duw.

A raid i'm zel, oedd farwor tanllyd

A raid i'm zel, oedd farwor tanllyd,
Un waith dros dy ogoniant gwiw,
A charedigrwydd dy ieuengtyd,
Fynd yn oerach at fy Nuw?
Breswylydd mawr yr uchelderau,
Yn awr datguddia'th wyneb llon,

A dyddyfna fy enaid bellach
Oddiar fronau'r greadigaeth hon.

Ar ddiwedd y llyfr ceir copi brysiog o chwech o emynnau A. G.

O'm blaen gwelaf ddrws agored

O'm blaen gwelaf ddrws agored,
Modd i hollol gael y mas,
Ynghrym y rhoddion a dderbyniodd
Yr hwn gymerodd agwedd gwas;
Ef ysbeiliodd d'wysogaethau,
Awdurdodau'r gelyn du,
Yr hwn ydoedd yn caethiwo
Mewn caethiwed yntau sy.

————

O am fywyd o sancteiddio
Enw sanctaidd pur fy Nuw, &c.

————

Blin yw mywyd gan elynion, &c.

————

Am fy mod mor lygredig

Am fy mod mor lygredig
Ac ymadael ynwy'n llawn,
Mae bod yn dy fynydd santaidd
Imi'n fraint rhagorol iawn;
Lle mae'r lleni'n cael ei difa,
A phob gorchudd yno ynghyd,
A'r newynog rai yn gwledda
Ar Iesu Grist a'i aberth drud.

O am gael ffydd i edrych

O am gael ffydd i edrych
Gyda'r angylion fry
Ar drefn yr iechydwriaeth,
Dirgelwch ynddi sy;
Dwy nattur mewn un person
Yn anwahanol byth,[2]
Mewn undeb heb gymysgu,
Rhyfeddu 'rwy'n ddilyth.


.

O f'enaid gwel addasrwydd[golygu]

O f'enaid gwel addasrwydd
Y person rhyfedd hwn,
Anturia iddo'th fywyd,
A bwrw arno'th bwn;
Mae'n ddyn i gyd'mdeithio
A'th wendid mawr i gyd[3]
Mae'n Dduw i fynu'r orsedd
Ar ddiafol, cnawd, a byd.

Nodiadau[golygu]

  1. Wedi ei newid, yn llaw John Hughes, i "Yn ei addoli ef yn awr.
  2. Y mannau hyn dechreuir ysgrifennu hen ffurf yr emyn, ond croesir yr hen allan
  3. ,Y mannau hyn dechreuir ysgrifennu hen ffurf yr emyn, ond croesir yr hen allan