Gwaith Ann Griffiths/O Lyfrau Argraff
← Hymnau | Gwaith Ann Griffiths gan Ann Griffiths |
Gwaith Thomas Griffiths → |
Hyd yn hyn, y mae'r cwbl wedi ei godi o ddau lyfr llawysgrif. John Hughes neu lythyr Ann Griffiths, ac ni thrwsiasid yr un pennill at ei gyhoeddi. Yn 1806, y flwyddyn wedi marw Ann Griffiths, cyhoeddodd Charles o'r Bala gasgliad o'i hemynnau.[1] Yn eu mysg ceir y rhai sy'n dilyn, nad ydynt yn y llawysgrifau.
Dyma Frawd a anwyd ini
Dyma Frawd a anwyd ini
Erbyn cledi a phob clwy';
Ffyddlawn ydyw, llawn tosturi,
Haeddai gael ei foli'n fwy:
Rhyddhawr caethion, Meddyg cleifion,
Ffordd i Seion union yw;
Ffynnon loyw, Bywyd meirw,
Arch i gadw dyn yw Duw.
NID all y moroedd mawrion llydain
NID all y moroedd mawrion llydain,
Guddio pechod o un rhyw ;
Ac nis gallodd diluw cadarn
Ei foddi'n wir, mae'n awr yn fyw;
Ond gwaed yr Oen fu ar Galfaria,
Haeddiant Iesu a'i farwol glwy',
Ydyw'r môr lle caiff ei guddio,
Byth ni welir mo'no mwy.
Ffrydiau tawel, byw rhedegog
Ffrydiau tawel, byw rhedegog,
O dan riniog ty fy Nuw,
Sydd yn llanw, ac yn llifo
O fendithion o bob rhyw;
Dyfroedd gloyw fel y grisial,
I olchi'r euog, nerthu'r gwan,
Ac a ganna'r Ethiop duaf
Fel yr eira yn y man.
O RHWYGA'R tew gymylau duon
O RHWYGA'R tew gymylau duon
Sy'n cuddio gwedd Dy wyneb gwiw;
Nid oes bleser a'm diddana
Ond yn unig Ti, fy Nuw:
Môr di-drai o bob trugaredd
Yw'th iachawdwriaeth fawr ei dawn,
Lanwodd ac a lifodd allan
Ar Galfaria un prydnawn.
NID oes wrthrych ar y ddaear
NID oes wrthrych ar y ddaear
Leinw'm henaid gwerthfawr, drud;
Fy unig bleser a'm diddanwch
Yw hyfryd wedd Dy wyneb-pryd ;
Gwedd Dy wyneb dyr y clymau
A phob creadur ar y llawr,
A gwna enw câr a chyfaill
Yn ddim er mwyn Dy enw mawr.
O ARGLWYDD Dduw rhagluniaeth
O ARGLWYDD Dduw rhagluniaeth,
Ac iachawdwriaeth dyn,
Tydi sy'n llywodraethu
Y byd a'r nef Dy Hun;
Yn wyneb pob caledi
Y sydd, neu eto ddaw,
Dod gadarn gymorth imi
I lechu yn Dy law.
Wedi hynny cyhoeddodd John Hughes naw emyn yn y "Traethodydd", Hyd., 1846. I'm mysg y rhain y mae dau emyn nad ydynt ar gael yn y ddau lyfr llawysgrif, ac na chyhoeddasid yn gyflawn o'r blaen.
PAN oedd Sinai gynt yn danllyd,
PAN oedd Sinai gynt yn danllyd,
Ar gyhoeddiad cyfraith Duw,
A'r troseddwyr dychrynedig
Bron yn anobeithio byw,
Yn nirgelwch grym y daran,
Codwyd allor wrth ei droed—
Ebyrth oedd yn rhagddangosiad
O'r aberthiad mwya' 'rioed.
MI gerdda'n araf ddyddiau f' oes
MI gerdda'n araf ddyddiau f' oes
Dan gysgod haeddiant gwaed y groes;
A'r yrfa redaf yr un wedd;
Ac wrth ei rhedeg sefyll wnaf-
Gweld iachawdwriaeth lawn a gaf
Wrth fynd i orffwys yn y bedd.
Nodiadau
[golygu]- ↑ Ni welais yr argaffiad cyntaf o'r rhai hyn. Yr wyf yn codi'r chwech o'r Cofiant gan Morris Davies. Ymddengys nad oes sicrwydd mai gwaith Ann Griffiths yw y pedwerydd a'r chweched.