Gwaith Ann Griffiths/Hymnau o waith A. G. Dolwar

Oddi ar Wicidestun
Llythyr 8 Gwaith Ann Griffiths

gan Ann Griffiths

Rhosyn Saron

Y Drws Agored.

"Crynodeb neu gasgliad o amryw sylwiadau ar bethau ysprydol yw ail ysgrifyfr John Hughes. Dechreuodd ei ysgrifennu yn Llanidloes, Hydref 20, 1804. Copiodd iddo hanes cymdeithasau y ddwy flynedd cynt, yn Nolgellau, Llanidloes, Dinbych, a'r Bala. Wedi Mehefin 14, 1804, daw sylwadau ar weddi Crist yn yr ardd ac ar y groes. Yna daw'r deg emyn sy'n dilyn.
Ymbriododd Ann Thomas a Thomas Grifiths, Hydref 10, 1804.

O'M blaen mi wela ddrws agored

HYMNAU O WAITH A. G., DOLWAR.

HYMN 1.

1 O'M blaen mi wela ddrws agored,
A modd i hollol gario'r ma's,
Yn grym y rhoddion a dderbyniodd
Yr hwn gymerodd agwedd gwas;
Mae'r tywysogaethau wedi ei hyspeilio,
A'r awdurdodau, ganddo ynghyd,
A'r carcharwr yn y carchar
Trwy rinwedd ei ddyoefaint drud.

2. Fy enaid trist, wrth gofio'r frwydur,
Yn llamu o lawenydd sydd,
Gweld y ddeddf yn anrhydeddus,
A'i throseddwyr mawr yn rhydd ;
Rhoi awdwr bywyd i farwolaeth,
A chladdu'r adgyfodiad mawr,
Dwyn i mewn dragywyddol heddwch,
Rhwng nef y nef a daear lawr.

3. Pan esgynodd 'r hwn ddisgynodd,
Gwedi gorphen yma'r gwaith,
Y pyrth oedd yn derchafu ei penau,
Dan ryfeddu[1] yn ei hiaith ;

Dorau'n agor, côr yn bywio,
I Dduw mewn cnawd yr ochor draw,
Y Tad yn siriol a'i gwahoddodd
I eistedd ar ei ddeheu law.

4. Digon mewn llifeiriant dyfroedd,
Digon yn y fflamau tân,
O am bara i lynu wrtho,
Fy enaid, byth yn ddiwahân;
Ar ddryslyd lwybrau tir Arabia,
Y mae gelynion fwy na rhi,
Rho gymdeithas dyoddefiadau
Gwerthfawr angau Calfari.

DYMA babell y cyfarfod

HYMN 2.

1 DYMA babell y cyfarfod,
Dyma gymmod yn y gwaed,
Dyma noddfa i lofryddion,
Dyma i gleifion feddyg rhad;
Dyma fan yn ymyl Duwdod
I bechadur wneyd ei nyth,
A chyfiawnder pur Jehofa
Yn siriol wenu arno byth.

2. Pechadur aflan iw fy enw,
O ba rai y penna'n fyw,
Rhyfeddaf fyth, fe drefnwyd pabell,
I'm gael yn dawel gwrdd â Duw;
Yno y mae'n yn llond ei gyfraith,
I'r troseddwr yn rhoi gwledd,
Duw a dyn yn gwaeddi Digon"
Yn yr Iesu,'r aberth hedd.

3. Myfi a anturiaf yno yn eon,
Teyrn wialen aur sydd yn ei law,
A hon senter at bechadur,
Llwyr dderbyniad pawb a ddaw;

Af yn mhlaen dan waeddi "Maddeu,"
Af a syrthiaf wrth ei draed,
Am faddeuant, am fy ngholchi,
Am fy nghanu yn ei waed.

4. O am ddyfod o'r anialweh
I fynu fel colofnau mwg,
Yn uniawn gyrchiol at ei orsedd,
Mae yno'n eistedd heb ei wg;
Amen diddechreu a diddiwedd,
Tyst ffyddlon yw, a'i air yn un,
Amlygu y mae ogoniant Trindod
Yn achubiaeth damniol ddyn.

Bererin llesg

HYMN 3.

1 Bererin llesg ..... rym y stormydd
Cwyd dy olwg, gwel'n awr,
Yr Oen yn gweini'r swydd gyfryngol,
Mewn gwisgoedd lleision hyd y llawr ;
Gweregys auraidd o ffyddlondeb,
Wrth ei odreu clychau'n llawn
O swn maddeuant i bechadur
Ar gyfri'r anfeidrol iawn.

2. Cofiwch hyn mewn stad o wendid
Yn y dyfroedd at eich fferau sy,
Mai di rifedi yw'r cufyddau
A fesurir i chwi fry;
Er bob yn blant yr adgyfodiad
I nofio yn y dyfroedd hyn,
Ni welir gwaelod byth nag ymyl
I sylwedd mawr Bethesta lun.

3. O ddyfnderoedd iechydwriaeth,
Dirgelwch mawr duwioldeb yw,

Duw y duwiau wedi ymddangos
Ynghnawd a nattur dynol ryw;
Dyma'r person a ddyoddefodd
Yn ein lle ddigofaint llawn,
Nes i Gyfiawnder waeddi,—"Gollwng
Ef yn rhydd, mi gefais iawn."

4. O ddedwydd awr tragwyddol orphwys
Oddiwrth fy llafur yn fy rhan,
Ynghanol môr o ryfeddodau
Heb weled terfyn byth, na glan;
Mynediad helaeth byth i bara,
I fewn trigfanau tri 'n un,
Dwr i'w nofio heb fynd trwyddo,
Dyn yn Dduw, a Duw'n ddyn.

ER mai cwbwl groes i nattur

HYMN 4.

1. ER mai cwbwl groes i nattur
Yw fy llwybur yn y byd,
Ei deithio a wnaf, a hyny 'n dawel
Yngwerthfawr wedd dy wyneb pryd ;
Wrth godi'r groes ei chyfri 'n goron,
Mewn gorthrymderau llawen fyw,
Ffordd yn uniawn, er mor ddyrus,
I ddinas gyfaneddol yw.

2. Ffordd a'i henw yn Rhyfeddol,
Hen, ac heb heneiddio, yw;
Ffordd heb ddechreu, etto 'n newydd,
Ffordd yn gwneud y meirw 'n fyw;
Ffordd i enill ei thrafaelwyr,
Ffordd yn Briod, Ffordd yn Ben,
Ffordd gyssegrwyd, af ar hydddi,
I orphwys ynddi draw i'r llen.


3. Ffordd na chenfydd llygad barcut,
Er ei bod fel haner dydd,
Ffordd ddisathar anweledig
I bawb ond perchenogion ffydd ;
Ffordd i gyfiawnhau'r annuwiol,
Ffordd i godi'r meirw 'n fyw,
Ffordd gyfreithlon i droseddwyr
I hedd a ffafor gyda Duw.

4. Ffordd a drefnwyd cyn bod amser
Yw hamlygu wrth angen rhaid,
Mewn addewid gynt yn Eden,
Pan gyhoeddwyd had y wraig ;
Dyma seiliau'r ail gyfammod,
Dyma gyngor Tri 'n Un,
Dyma'r gwin sy'n abal lloni,
Lloni calon Duw a dyn.

MAE'R dydd yn dod i'r had brenhinol

HYMN 5

1. MAE'R dydd yn dod i'r had brenhinol
Gael mordwyo tua ei gwlad,
O gaethiwed y pridd feini
I deyrnas gyda'i Tad;
Ei ffydd ty draw a dry'n olwg,
A'i gobaith eiddil yn fwyhad,
Anherfynol fydd yr anthem,
Dechafu rinwedd gwerthfawr waed.

2. Mae fy nghalon am ymadel
A phob rhyw eulunod mwy,
Am fod arnai'n sgrifenedig
Ddelw gwrthddrych llawer mwy,—
Anfeidrol deilwng i'w addoli,
Ei garu, a'i barchu, yn y byd,

Bywyd myrdd o safn marwolaeth
A gafwyd yn ei angau dryd.

3. Arogli ’n beraidd mae fy nardus
Wrth wledda ar y cariad rhad,
Zel yn tanio 'n erbyn pechod,
Caru delw santeiddhad;
Tori ymaith law a llygad,
Ynghyd ag uchel drem i lawr,
Neb yn deilwng o'i dderchafu,
Onid Iesu,'r brenhin mawr.

4. O am fywyd o sancteiddio
Sanctaidd enw pur fy Nuw,
Ac ymostwng i'w ewyllys
A'i lywodraeth tra fwyf byw ;
Byw dan addunedu a thalu,
Byw dan ymnerthu yn y gras
Sydd yNghrist yn drysoredig,
I orchfygu ar y maes.

5. Addurna 'm henaid ar dy ddelw,
Gwnaf fi'n ddychryn yn dy law,
I uffern, llygredd, annuwioldeb,
Wrth edrych arnaf i gael braw;
O am gymdeithasu â'r enw,
Enaint tywalltedig yw,
Yn hallt i'r byd, gan bêr aroglau
O hawddgar ddoniau eglwys

O AM gael ffydd i edrych

HYMN 6.

1 O AM gael ffydd i edrych
Gyda'r angylion fry,
I drefn yr iechydwriaeth,
Dirgelwch ynddi sy;
Dwy nattur mewn un person
Yn anwahanol mwy,
Mewn purdeb heb gymmysgu,
Yn berphaith hollol trwy.

LLAWYSGRIF ANN GRIFFITHS.

Y rhan olaf o'i llythyr yn Amgueddfa Coleg Prifysgol Cymru.[2]

2. O fy enaid, gwel addasrwydd
Y person dwyfol hwn,
Mentra arno'th fywyd,
A bwrw arno'th bwn;
Y mae'n ddyn i gydymdeimlo
A'th holl wendidau i gyd,
Mae'n Dduw i gario 'r orsedd
Ar ddiafol, cnawd, a byd.

3. Rhyw hiraeth sy am ymadael
Bob dydd a'r gwaedlyd faes,
Nid a'r arch, nac Israel,
Ond hunan ymchwydd cas;
Cael dod at fwrdd y Brenhin,
A'm gwadd i eiste'n uwch,
A minau, wan ac eiddil,
Am garu yn y llwch.

4. Er cryfed ydyw'r stormydd,
Ac ymchwydd tonau'r môr,
Doethineb ydyw pilat,
A'i enw'n gadarn Ior;
Er gwaethaf diluw pechod,
A llygredd o bob rhyw,
Diangol yn y diwedd,
Am fod yr arch yn Dduw.

PAN fo'r enaid mwyia gwresog

HYMN 7.

1. PAN fo'r enaid mwyia gwresog
Yn tanllyd garu'n mwyia byw
Y mae'r pryd hyn yn fyr o gyredd
Perffeth sanctedd gyfraith Duw;

O am gael ei hanrhydeddu,
Trwy dderbyn iechydwriaeth rad,
A'r cymundeb mwyia melys,
Wedi ei drochi yn y gwaed.

2. Rhyfeddu a wnai à mawr ryfeddod,
Pan ddel i ben y ddedwydd awr
Caf weld fy meddwl, sy yma'n gwibio
Ar ol teganau gwael y llawr,
Wedi ei dragywyddol setlo
Ar wrthddrych mawr ei berson Ef,
A diysgog gydymffurfio
A phur a sanctaidd ddeddfau'r nef.

Mae bod yn fyw o fawr ryfeddod

HYMN 8.

1 Mae bod yn fyw o fawr ryfeddod
O fewn ffwrneisiau sydd mor boeth,
Ond mwy rhyfedd, wedi mhrofi,
Y dof i'r canol fel aur coeth;
Amser canu, diwrnod nithio,
Etto'n dawel, heb ddim braw,
Y Gwr a fydd i mi'n ymguddfa
Y sydd a'r wyntyll yn ei law.

2. Blin yw mywyd gan elynion,
Am ei bod yn amal iawn,
Fy amgylchu maent fel gwenyn
O foreuddydd hyd brydnawn;
A'r rhai o'm ty fy hun yn bena,
Yn blaenori ufernol gad,
Trwy gymorth gras yr wyf am bara,
I ryfela hyd at waed.[3]

AM fy mod i mor llygredig

HYMN 9.

1 AM fy mod i mor llygredig,
Ac ymadel ynddw i'n llawn,
Mae bod yn dy fynydd santaidd
Imi'n fraint oruchel iawn ;
Lle mae'r llenni yn cael ei rhwygo,
Mae difa'r gorchudd yno o hyd,
A rhagoroldeb dy ogoniant
Ar ddarfodedig bethau'r byd.

2. O am bara i uchel yfed
Offrydiau'r iechydwriaeth fawr,
Nes fy nghwbwl ddisychedu
Am ddarfodedig bethau'r llawr ;
Byw dan ddisgwyl am fy Arglwydd
Bod, pan ddel, yn efro iawn,
I agoryd iddo'n ebrwydd
A mwynhau ei ddelw'n llawn.

O NA bai fy mhen y ddyfroedd

HYMN 10.

1. O NA bai fy mhen y ddyfroedd,
Fel yr wylwn yn ddi lai,
Am fod Sion, lu bannerog,
Y'ngres y dydd yn llwfrhau;
O datguddia 'r colofnau
A wnaed i'w chynal yn y nos,
Addewidion diamodol Duw
Ar gyfri angau'r groes.

2. Cofia, Arglwydd, dy ddyweddi,
Llama ati fel yr hydd,
Ac na'd ir Ameleciaid
Arni'n hollol gario'r dydd;
Mae'r llwynogod ynddi'n rhodio
I ddifwyno'r egin grawn,

S'ceina fwyfwy sy'n ymadel
O foreuddydd hyd brydnhawn.

3. Deffro, Arglwydd, gwna rymusder,
Cofia lw'r cyfamod hedd,
Gwel dy enw mawr dan orchudd
Ar y tystion yn y bedd;
Gair o'th enau dont i fyny,
Ti yw'r adgyfodiad mawr,
Ag argraffiadau yr enw newydd
Yn ddisglaer arnynt fel y wawr.

4. Hwn yw'r enaint tywalltedig
Ymddibenol arno ei hun,
I ddwyn gelynion byth yn deilwng
Wrthddrychau cariad Tri yn Un;
Mae edifeirwch wedi ei guddio,
Am hyn er neb ni thry yn ol,
Nes bod o'r llafur yn ddiangol
I dragywyddoldeb yn ei gol.

{

YNGLYN wylofain bydd fy ymdaith

HYMN 11.

1 YNGLYN wylofain bydd fy ymdaith,
Nes im weled dwyfol waed
O'r graig yn tarddu fel yr afon,
Ynddo'n wynion myrdd a wnaed;
Goleu'r.maen i fynd ymhlaen,
Sef Iesu'n gyfiawnder glân.

2. Rhyw'n hiraethu am yr amser
Y caf ddatguddiad o fy mhraint,
Iesu Grist, gwir bren y bywyd,
Hwn yw cyfiawnder pur y saint;
Ei gleimio'n ail, a'm cadarn sail,
Yn lle gwag obaith ffigys ddail.

Nodiadau[golygu]

  1. Cyfnewidiwyd yn ddiweddarach, gan yr un llaw, yn orfoleddu.
  2. Bellach yn y Llyfrgell Genedlaethol
  3. Un hymn, hwyrach, ddylai Hymn 8 a Hymn 9 fod. "A diolch byth fod y ffwrnes a'r ffynnon mor agos i'w gilydd."—Tud, 15.