Gwaith Ann Griffiths/Llythyr 8

Oddi ar Wicidestun
Llythyr 6 Gwaith Ann Griffiths

gan Ann Griffiths

Hymnau o waith A. G. Dolwar

Y mae'r llythyr nesaf wedi ei godi o lawysgrif Ann Griffiths ei hun. Erys y llythyr yn Llyfrgell Gymraeg Coleg Prifysgol Cymru, wedi ei roddi gan un o deulu'r emynyddes, y diweddar John Jones. Llanfyllin. Hwn—a'r enw crynedig yn llyfr eglwys Llanfihangel ysgrifennwyd ddydd ei phriodas, a'r enw prydferth ysgrifennodd fel tyst ym mhriodas Ruth yn yr un llyfr,—yw'r unig beth y gwyddis am dano sydd yn llawysgrif Ann Griffiths


ELIZABETH EVANS, BWLCH AEDDON.

ANWYL CHWAER YN YR ARGLWYDD,—

Yn ol eich dyminiad y ysgrifenais yr ychydig leiniau hyn atoch, a da iawn genyf gael cyfle i wneyd fy helynt yn adnabyddus ichwi. Garedig chwaer, y peth mwyaf neillduol sydd ar fy meddwl yn bresenol fel mater yw mewn perthynas i dristau yr Ysbryd Glan. Gair hwnw ddaeth im meddwl,—"Oni wyddoch chwi fod eich cyrph yn demlau i'r Ysbryd Glan sydd yn trigo ynoch;" ac wrth dreiddio gronyn i mewn i ryfeddodau yr person, a'i fod yn trigo neu yn preswylio yn y credadyn, 'rwit yn meddwl yn symul na chefais erioud fy meddianu i'r un graddau ac ofnau parchus rhag dristau, ac ynghyd a hynu cefais weld un achos, a'r achos penaf o fod y pechod mawr hwn yn cael mor lleied o argraff wasgedig ar y meddwl oherwydd fy meddyliau isel cableddus am berson mor fawr.

Dyma oedd rhediad fy meddwl am bersonau yr drindod. Rwif yn clywed fy meddwl yn cael ei ddal a chywilydd, eto dan rywmau i ddweud o herwydd y niwaid o hono. Meddwl am berson y Tad a'r Mab yn ogufywch; ond am berson yr Ysbryd Glan, ei olwgu fel swyddog islaw iddynt. O feddwl dychmygol cyfeiliornus am berson dwyfol, holl bresenol, holl wybodol, a holl alluog i ddwyn yn y blaen a gorffen y gwaith da a ddechrauodd yn ol trefn y cyfamod rhad a chynghor tri yn un ar rhan gwrthrychau yr cariad borau. O am y fraint o fod o'i nifer.

Anwyl chwaer, rhwif yn teimlo gradd o syched am ddod i fynu yn fwy mewn crediniaeth am breswiliad personol yr Ysbryd Glan yn fy ngyflwr; a hynu trwy ddatgiddiad, nid yn ddychymigol, gan feddwl amgyffred y dull a'r modd y mae, yr hyn sydd eulinaddoliaeth real. Anwyl chwaer, wrth edrych gronyn ar y pechadyrusrwydd ynddo ei hun o dristau yr Ysbryd Glan, ac o'r tu arall edrych i mewn i ddyfderoedd y codwm mawr a fy mod wedi fy llwyr ddifeddianu o bob gallu i ddim ond yw dristau, mae yn o wasgedig yn wir. Ond y gair yma sydd ar fy meddwl,— "Gwyliwch a gweddiwch;" fel ped fau yr Arglwydd y dweyd "Er mor halld yw yr gorchymun, a thithau mor analluog i gyflawni un peth o fil yn y fan yna ar y tir yna o ran dy feddwl, tyred i'r maes, treia di yr orsedd, canys llawer a ddichon taer weddi yr cyfiawn; digon i ti fy ngras i, fy nerth i a berffeithir mewn gwendid." Diolch byth am Dduw yn llond ei addewidon.

Anwyl chwaer, mi a ddymunwn ddweud llawer am rinwedd gweddi ddirgel, ond chwi a wyddoch fwy nag a allaf fi ddwyd am dani, ond rwyf yn gwbl o'r farn ei bod yn rhagori llawer i wynebu gelunion ar fyddin o wyr arfog. Mi a wn trwy brofiad am gael fy roundio gan elynion na feddwn ddim yw wneud ond hynu,—"Aminau a arferaf weddi;" a hynu yn ateb y diben iddynt syrthio ynwysg ei cefnau. O am y fraint o fod dan orichwiliathau manwl yr Ysbryd Glan, rwif yn meddwl yn symul na ffitia gorichwiliaeth llai manwl na'r gair hwnw byth mo ngyflwr i,—'Ar bob moment y dwfrhaf hi. Diolch byth am Fibl yn ffitio cyflwr wedi mynd mor ddyfn. Anwyl chwar, rhiw fraint fawr yw bod cyflwr ar gael yngwyneb gair Duw. O am ei ddal yn y drych sanctaidd i'r diben i wneud use o gyfryngwr.

Un peth neillduol ar fy meddwl neithiwr mewn perthynas i feindio cyflwr yn y gair. R. J. yn llefaru'n werthfawr iawn o ran mater, a minau mor sych, mor bell o ran fy mrhofiad, nad oedd na deddf nac efengil yn gweithredu dim arnaf, a hynu a weithiodd fesur o ddychryn ar fy meddwl. Ffaelu meddwl cael fy ngyflwr yn y gair o ran fod deddf ac efengil megis yn ddifydd. Gair hwnw ddaeth im meddwl,—"Dos allan rhagot ar hyd ol y praidd;" a minau ffaelu gweld ol y praidd yn yr amgylchiad hwnw. Ond y gair hwnw ddaeth i'm meddwl gyda golau a gwres, —"Deffro di ogledd wynt, a thyred ddehau wynt." Diolch byth am graig y gair, i roi troed arni i gychwyn, a'r amosiblrwydd o gychwyn heb hynu.

Anwyl chwaer, wif yn gweled mwy o angen nac erioed am gael treilio y rhan su yn ol dan rhoi fy hun yn feunyddiol ac yn barhaus, gorph ac enaid, i ofal yr hwn su yn abal i gadw yr hyn a roddir ato erbyn y dydd hwnw. Nid rhoi fy hun unwaith, ond byw dan roi fy hun, hyd nes ac wrth roi y tabarnacle hwn heibio. Anwyl chwaer, mae meddwl am i roi o heibio yn felus neillduol weithiau, gallf ddweyd mai hyn sydd yn fy lloni fwyaf o bob peth y dyddiau hyn,—nid marw ynddo ei hun, ond yr elw mawr sudd yw gael trwyddo. Cael gadel ar ol bob tueddiad croes i ewyllis Duw, gadel ar ol bob gallu i ddianrhydeddu deddf Duw, bob gwendid yn cael ei lyncu i fynu gan nerth, cael cydymffuriad cyflawn a'r gyfraith yr hon sudd eusoes ar ei calon a mwynhau delw Duw am byth. Anwyl chwaer, byddaf yn cael f'llwngu gimaint weithau i'r pethau hyn fel ag y byddaf yn misio yn deg a sefyll yn ffordd fy nyledswydd gyda phethau amser, ond disgwil am yr amser i gael fy natod a bod gyda Christ, canys llawer iawn gwell ydiw, er ei bod yma yn dda iawn trwy ddellt, a bod yr Arglwydd yn datgyddio gymaint o'i ogoniant weithiau trwy ddrych mewn dameg a all fy ngyneddfau gweiniad i ddal.

Anwyl chwaer, mae yn dda genyf ddweyd hyn wrth ddibenu,—mi a ddymunwn ei ddweud gyda diolchgarwch,—er fy holl lygredd, a dyfais uffern, byd a'i wrthrychau, rwi o ddaioni Duw yn unig heb newid gwrthrych fy serch hyd heno; ond yn hytrach o galon am ymlonyddu yn ei gariad ac ymhyfrydu ynddo byth dan ganu, er nas caf hynu i'r graddu lleiaf tu yma i angeu ond trwy drais.

Anwyl garedig chwaer, dymynaf arnoch yn neillduol anfon ataf gydaf brys; na omeddwch fi, nis gallaf beidio a'i gymeryd yn angaredig arnoch os gwnewch. Mae Ruth yn dymuno ei chofio yn garedig atoch. Nid oes genyf ddim neillduol yw anfon atoch fel newydd ond hyn, mae rhiw ysbryd gobaithio bob dim i weld arwyddion adferiad Rachel Pugh. A hyn oddiwrth eich gredig chwaer yn cyflum deithio trwy fyd o amser i byd mawr a bery byth.

ANN THOMAS.

Er mae cwbwl groes i nattur yw fy llwybur yn y byd
I deithio wnaf a hynu yn dawel yngwerthfawr
wedd dy wyneb-pryd wrth godi yr groes ei chyfri yn goron
Mewn gorthrymderau llawen fyw ffordd yn iniawn
Er mor ddyrus i Ddinas gyfaneddol yw—