Gwaith Ceiriog/Addfwyn fiwsig

Oddi ar Wicidestun
Gwaith Ceiriog/Darlun-Nant y Mynydd Gwaith Ceiriog

gan John Ceiriog Hughes (Ceiriog)

Y Caniadau

ADDFWYN FIWSIG

Addfwyn Fiwsig, addfwyn Fiwsig,
Gwenferch gwynfa ydwyt ti;
Pan anedli, adfywiedig
Awel haf ddaw atom ni.
Gauaf du helbulon,
Droi yn ha;
Danat rhew y galon,
Toddi wna, toddi wna.
Dafnau melus bro gogoniant,
Yn dy lafar di ddisgynnant;
Blodau Eden yn ddi-ri',
Dyfant, wenant, beraroglant,
Yn dy lais a'th wyddfod ti.
Nefol ferch ysbrydoledig,
Ti sy 'n puro 'r fron lygredig,
Ti sy 'n llonni 'r cystuddiedig.
Addfwyn Fiwsig, addfwyn Fiwsig
Gwenferch gwynfa ydwyt ti.