Gwaith Ceiriog/Y Caniadau

Oddi ar Wicidestun
Addfwyn fiwsig Gwaith Ceiriog

gan John Ceiriog Hughes (Ceiriog)

Bugeilio'r Gwenith Gwyn

Y CANIADAU

Nid oes gennyf fawr o bleser gydag ysgrifennu un math o farddoniaeth heblaw caneuon bychain o'r fath hyn. Fy mhlant fy hun ydyw'r Caniadau. Dymuniad fy nghalon a balchder fy mynwes ydyw eu dwyn i fyny yn blant da. Wrth adael i rai ddawnsio mewn plentynrwydd, ac i'r lleill chwerthin ac ysmalio, caiff nifer o honynt gadw carwriaeth ac eraill ganu hen alawon eu brodir. Caiff bechgyn weithio yn y graig, a bugeilio ar y mynydd, a phan fydd dolefiad corn y gad yn galw, fe'u cyfeiriaf i faes y frwydr i amddiffyn eu cartref, ac i farw'n ddewr tros Ryddid eu mamwlad. Yn nesaf at ofni Duw ac anrhydeddu y brenin, cant garu eu gwlad a meddwl yn dda am eu hiaith a'u cenedl.