Gwaith Ceiriog/Alun Mabon

Oddi ar Wicidestun
Darlun-Aros Mae'r mynyddau mawr Gwaith Ceiriog

gan John Ceiriog Hughes (Ceiriog)

Alun Mabon (2)

ALUN MABON

BUGEILGAN DELYNEGOL

I

'R oedd Alun Mabon yn ei ddydd
Yn fachgen cryf a hoew;
Yn berchen grudd a thalcen hardd,
A llygad gloew, gloew.
Er nad oedd goeth 'nol dull y byd,
Fe ellid dweyd er hynny
Fod ganddo galon gynnes bur
Yn natur wedi tyfu.

Ar fin y mynydd ganwyd ef,
Ac fel y blodyn bychan
Oedd ar y grug wrth gefn ei dŷ,
Blagurodd yntau allan.—
Fe gafodd hafddydd yn yr haul,
A gauaf yn y stormydd;
Ac yna megis blodyn grug,
Fe wywodd ar y mynydd.