Gwaith Ceiriog/Alun Mabon (2)

Oddi ar Wicidestun
Alun Mabon (1) Gwaith Ceiriog

gan John Ceiriog Hughes (Ceiriog)

Alun Mabon (3)

II

Ar fin y mynydd ganwyd ef,
Ac fel yr hedydd rhyngo a'r nef
Fe ganodd lawer anthem gref,
Lle nad oedd carreg ateb.
Ond dywed traddodiadol go,
I'r llon a'r prudd o dro i dro
Ddod ato yn ei fryniawg fro
Fel haul a storm i'w wyneb.


Ar rai o fydrau Cymru lân,
Rhyw gais at roi arluniau mân
O fywyd Alun ydyw'r gân
Fugeiliol sydd yn canlyn;
Ac mae bywgraffiad byw o'r dyn,
Yn ei ganeuon ef ei hun,
A'i "Arad Goch" yw'r gyntaf un
Gaiff fyned efo'r delyn.