Gwaith Ceiriog/Alun Mabon (13)

Oddi ar Wicidestun
Alun Mabon (12) Gwaith Ceiriog

gan John Ceiriog Hughes (Ceiriog)

Alun Mabon (14)

XIII

Ar ol i'r gog fy ngadaw, efo'r pren,
Dechreuais ganu'r alaw Mentra Gwen;
Cyfodi wnes yn union,
A theimlais fwy na digon
O ganu ar fy nghalon, Mentra Men,
Er gwaethaf fy ngelynion, Mentra Men.


Os gyrraist imi gollen, Menna Wen,
Fe yrraf eto fedwen Menna Wen,
Pe b'ai holl fedw Cymru
Tan farn yn gwywo'fory,
Mi ddaliwn innau i ganu, Mentra Men,
Nes byddent yn aildyfu, Menna Wen.

Os gwelaist ddail yn syrthio, ar y pren,
A blodau'r haf yn gwywo, Menna Wen.
Perogli wedi marw
Wna'r dail sydd ar y bedw,
Gan ddal y tywydd garw, Menna Wen,
Pren cariad ydyw hwnnw, Menna Wen.