Gwaith Ceiriog/Alun Mabon (14)

Oddi ar Wicidestun
Alun Mabon (13) Gwaith Ceiriog

gan John Ceiriog Hughes (Ceiriog)

Alun Mabon (15)

XIV

Alaw,—Clychau Aberdyfi

Wrth feddwl am y gangen gyll
Ddanfonodd Menna imi;
Draw'n y pellder clywwn swn
Hen glychau Aberdyfi—
"Menna eto fydd dy fun,
Gâd y pruddglwyf iddo'i hun,
Cwyd dy galon, bydd yn ddyn,"
Meddai clychau Aberdyfi.
"Un-dau-tri-pedwar-pump-chwech
Cwyd dy galon, bydd yn ddyn,"
Meddai clychau Aberdyfi.

Hawdd gan glychau ganu'n llon,
Tra na bo dim i'w poeni:
Hawdd yw cael gweniadau merch,
Ond mil mwy hawdd en colli.
"Menna eto fydd dy fun," &c.

Pe bai etifedd i ŵr mawr
Yfory'n cael ei eni;
I ganu cainc dechreuech chwi,
Hen glychau Aberdyfi.
"Menna eto fydd dy fun," &c.

Pe bai rhyw ddeuddyn yn y wlad,
Yfory'n mynd i'w priodi,
I ganu cainc dechreuech chwi,
Hen glychau Aberdyfi,
"Menna eto fydd dy fun," &c.

Pe bawn i fory'n mynd i'r bedd,
A'm calon wedi torri;
I ganu cainc dechreuech chwi,
Hen glychau Aberdyfi.
"Menna eto fydd dy fun,
Gad y pruddglwyf iddo'i hun,
Cwyd dy galon, bydd yn ddyn,"
Meddai clychau Aberdyfi.
"Un-dau-tri-pedwar-pump-chwech
Cwyd dy galon, bydd yn ddyn"
Meddai clychau Aberdyfi.