Gwaith Ceiriog/Alun Mabon (15)

Oddi ar Wicidestun
Alun Mabon (14) Gwaith Ceiriog

gan John Ceiriog Hughes (Ceiriog)

Alun Mabon (16)

XV

'R wyf wedi canu llawer
O gerddi Cymru lân,
Ond dyma'r darn prydferthaf
Sydd gennyf yn fy nghân;
Ymhen rhyw flwyddyn wedyn,
At Menna Rhen daeth brys,
Nes aeth yn Menna Mabon
A modrwy am ei bŷs.


Yn mhen rhyw flwyddyn arall,
A dyma ddernyn cain;
Pan oedd y gôg yn canu
A'r blodau ar y drain,
Yr ŵyn ar ben y mynydd
Yn chware naid a llam,
Fe wenai Mabon bychan
Ar freichiau gwyn ei fam.