Gwaith Ceiriog/Alun Mabon (16)

Oddi ar Wicidestun
Alun Mabon (15) Gwaith Ceiriog

gan John Ceiriog Hughes (Ceiriog)

Alun Mabon (17)

XVI

Ar ysgwydd y gwan fe ddaeth pwys
Trafferthion a helbul y byd,
Fy nheulu gynyddodd, a daeth
Gofynion am'chwaneg o ŷd;
Ychwaneg o fwyd i'r rhai bach,
Ychwaneg o lafur a thraul;
Er hynny yn nghwmni fy Men,
Yr oedd imi gysur i'w gael.

Un gweryl a gawsom erioed,
A chweryl dra chwerw oedd hon;
Fe yrrwyd fy hunan a'm gwraig,
Ar tŷ'n bendramwnwgl bron.—
Yr oedd hi'n bur hoff o roi tro
I weled ei mam tros y bryn;
Ac wrth imi ddwedyd gair croes,
Dechreuodd areithio fel hyn:—

"Cymeryd fy hel a fy nhrin,
Fy maeddu heb ddarfod na phen:
Cymeryd pob tafod a rhenc,
Fel pe bawn yn ddernyn o bren!
Ai dioddef fel carreg a raid,
Heb deimlad—na llygad—na chlyw!
O! na wnaf, os gwelwch chwi'n dda,
Wnaf fi ddim er undyn byw!


"A chymer di fi ar fy ngair,
Fe'i cedwais erioed hyd yn hyn;
Cyn cei di fy ngwddf tan dy droed,
Bydd dy ben yn eitha gwyn.—
Cymeryd diflasdod a chas,
A galw fy modryb yn'sgriw.'—
O! na wnaf, os gwelwch chwi'n dda,
Wnaf fi ddim er undyn byw!

"Ni flasa i fynd allan o'r tŷ,
I weled fy chwaer na fy mam,
Nad codi'r gloch fawr byddi di,
Heb reswm, nag achos, na pham.—
Wna i mono fo, Alun, er neb,
Mi gadwaf anrhydedd fy rhyw;
O! na wnaf os gwelwch chwi'n dda,
Wnaf fi ddim er undyn byw!

"'Does gen' ti'r un galon o'th fewn,
A phwyll yn dy goryn ni'roed;
A gwae fi o'r diwrnod a'r awr [yn crio.]
Y gwelais dy wyneb erioed!
Mi âf tros y bryn at fy nhad,
I'm hatal'does undyn a wiw;
Ac aros yn hŵy efo'th di—
Wnaf fi ddim—wnaf fi ddim!
Wnaf fi ddim er undyn byw!"


Ac i ffwrdd yr aeth hi, ac i ffwidd y bu hi, ac i ffwrdd yr arosodd, am nas gwn i pa hyd. Ond tra yr oedd hi efo'i mam a'i theulu, a minnau yn fy helbul efo fy mhlant bach, mi genais gerdd i ysgafnhau fy nghalon, ac fel hyn y cenais,—