Gwaith Ceiriog/Alun Mabon (17)
Gwedd
← Alun Mabon (16) | Gwaith Ceiriog gan John Ceiriog Hughes (Ceiriog) |
Alun Mabon (18) → |
XVII
Mae'r lloer yn codi tros yr aig
Ac ogof Craig Eryri;
Ond beth yw cartref heb fy ngwraig,
Ond ogof ddioleuní?
Y mae pob munud megis awr,
Ac awr, O! Menna,'n flwyddyn.
Pe bawn i heno'n dderyn to,
Caet heno weled Alun.
O na bai cadair Morgan Mud,
Neu un o'r hen freindlysau,
Yn mynd a fi, fy ngeneth wen,
Tros ben y coed a'r caeau.
Mi rown fy ngwefus wrth dy glust,
A gwnawn i ti freuddwydio;
Nes codet trwy dy gwsg i ddod,
Yn ol at Alun eto.
Ond i fy nghadair wellt yr af,
A cheisiaf huno, Menna;
Ac mewn breuddwydion cyn bo hir
Mi ddeuaf innau yna.
Yn awr'rwy'n cau fy amrant swrth
Wrth gychwyn i dy wyddfod;
Breuddwydia dithau, felly hed,
A thyred i'm cyfarfod.