Gwaith Ceiriog/Alun Mabon (18)

Oddi ar Wicidestun
Alun Mabon (17) Gwaith Ceiriog

gan John Ceiriog Hughes (Ceiriog)

Alun Mabon (19)

XVIII

Mi dreuliais wythnos gyfan,
A Menna bach i ffwrdd;
A'r tŷ yn llanast tryblith,
A'r llestri hyd y bwrdd.

'R oedd gennyf was a hogyn
Yn cynhauafa mawn:
Ac eisiau pobi bara
A daeth yn fuan iawn.

'R oedd godro un o'r gwartheg
Yn gasach na phob peth,
Oherwydd Menna'n unig
Gai gydied yn ei theth.
A throi yn hesp wnaeth pedair
O'r gwartheg mwyaf blith;
A llaeth y lleill a surodd,
A'r byd a drodd o chwith.

Ac am y gegin, druan,
'R oedd hi heb drefn na llun:
Y plant ddechreuent grïo,
A chrïais innau f' hun.
Mi flinais ar fy einioes,
Aeth bywyd imi'n bwn:
A gyrrais efo'r hogyn
I Menna'r llythyr hwn:—