Gwaith Ceiriog/Alun Mabon (19)
← Alun Mabon (18) | Gwaith Ceiriog gan John Ceiriog Hughes (Ceiriog) |
Alun Mabon (20) → |
XIX
Alaw,—Bugail Aberdyfi
Mi geisiaf eto ganu cân,
I'th gael di'n ol, fy ngeneth lân,
I'r gadair siglo ger y tân,
Ar fynydd Aberdyfi;
Paham, fy ngeneth hoff, paham,
Gadewaist fi a'th blant dinam?
Mae Arthur bach yn galw'i fam,
A'i galon bron a thorri;
Mae'r ddau oen llawaeth yn y llwyn,
A'r plant yn chware efo'r ŵyn;
O tyrd yn ol, fy ngeneth fwyn,
I fynydd Aberdyfi.
Nosweithiau hirion mwliog du
Sydd o fy mlaen, fy ngeneth gu:
O! agor eto ddrws y tŷ,
Ar fynydd Aberdyfi.
O! na chaet glywed gweddi dlos
Dy Arthur bach cyn cysgu'r nos,
A'i ruddiau bychain fel y rhos,
Yn wylo am ei fami;
Gormesaist lawer arnaf, Men,
Gormesais innau—dyna ben:
O tyrd yn ol, fy ngeneth wen,
I fynydd Aberdyfi.
Fel hyn y ceisiaf ganu cân
I'th gael di'n ol, fy ngeneth lân,
I eistedd eto ger y tân,
Ar fynydd Aberdyfi;
'Rwy'n cofio'th lais yn canu'n iach—
Ond'fedri di, na neb o'th âch,
Ddiystyrru gweddi plentyn bach
Sydd eisieu gweld ei fami.
Rhyw chware plant oedd d'weyd ffarwel,
Cyd-faddeu wnawn, a dyna'r fel,
Tyrd tithau'n ol, fy ngeneth ddel,
I fynydd Aberdyfi.