Gwaith Ceiriog/Alun Mabon (6)
← Alun Mabon (5) | Gwaith Ceiriog gan John Ceiriog Hughes (Ceiriog) |
Alun Mabon (7) → |
VI
Pan welais gyntaf Menna Rhên
Yn myned tua'r mynydd,
Yr oedd plentynrwydd tyner llon
Yn dirion ar ei dwyrudd;
Ac efo'i brawd y byddai beunydd,
Yn adsain miwsig hyd y meusydd;
'R oedd ganddi lais, a chanddi ddeall
I ganu a charoli'n ddiwall,
Ond nid oedd dim yn Menna Rhên—
Ddim mwy na rhywun arall.
Mi welais eilwaith Menna Rhen
Yn myned tua'r mynydd;
A byth er hynny, coeliwch fi,
Bu'n boenau imi beunydd.
Yr oedd y dôn a genid ganddi
Fel yn aros gyda myfi;
Mi dreuliais ddyddiau mewn myfyrion,
A nosweithiau mewn breuddwydion,
Nes credais fod cân Menna lân
Yn ngwaelod isa'nghalon.
Mi welais wedyn Menna Rhen
I'r mynydd hwnnw'n myned,
Ac mi ddilynais ôl ei throed
Bob cam a fedrwn weled;
Ond hi o'r diwedd oddiweddais,
Ac O! mi deimlais, ac mi ddwedais
Farddoniaeth dlysach mewn un munud
Na dim a genais yn fy mywyd,
Wrth roddi cangen fedwen ferth
Yn nwylaw fy anwylyd.