Gwaith Ceiriog/Alun Mabon (7)
← Alun Mabon (6) | Gwaith Ceiriog gan John Ceiriog Hughes (Ceiriog) |
Alun Mabon (8) → |
VII
Tra'n cysgu'r nos ddilynol
Canfyddais trwy fy hun,
Y gangen fedwen honno'n bleth
Am wddf fy anwyl fûn;
Y dail a ddeuent arni,
Yn wyrdd a llawn bywhad;
A gwelwn hi'n blodeuo'n hardd,
Ac yna'n hadu had.
Ond wrth fwynhau fy mreuddwyd
O freuddwyd heb ei ail!
Canfyddwn locust melyn ddu
Ymysg y bedw ddail;
Ymlusgodd ac ymrwyfodd
Nes cyffwrdd gwddf y ferch,
Ac yna breuddwyd mwy nid oedd,
Ond hunllef hagr erch.
Diolchais am gael deffro
Pan ddaeth yn doriad dydd;
Ond cofiais ddechreu'r breuddwyd hwn
Yn fwy na'i ddiwedd prudd.—
Meddyliais am y blodau
Oedd ar y brigau cain,
Yn fwy nag am y locust erch
Lochesid yn y rhain.
Fy nghalon losgai ynnof
Wrth gofio llygad Men;
Ac adeiladais lawer llys
A chastell yn y nen;
Ond maluriasant ymaith,
Cyn dechreu mynd yn hen,
Oherwydd cangen gollen ddaeth
Oddiwrth fy Menna Rhên.