Gwaith Ceiriog/Alun Mabon (8)
Gwedd
← Alun Mabon (7) | Gwaith Ceiriog gan John Ceiriog Hughes (Ceiriog) |
Alun Mabon (9) → |
VIII
Alaw,—Hob y Deri Dando
Mae gan bawb ei brofedigaeth,
Paid a siarad gwirion,
Ond myfi gadd siomedigaeth
Paid a thorri'th galon;
Rhyfedd iawn os na wnaf farw,
Siwr, siwr iawn,
Siomedigaeth chwerw arw;
Mwyn, mwyn, er ei mwyn,
A fyddai marw er ei mwyn.
Rown i'n meddwl ei bod hi'n ddidwyll,
Paid a meddwl gwirion,—
Peidiwch chwithau bod yn fyrbwyll;
Dyna fel mae dynion.
Dynion sydd a'r synwyr cryfa,
Siwr, siwr iawn,
Ond gwrthodwyd fi gan Menna;
Mwyn, mwyn, er ei mwyn,
A fyddai marw er ei mwyn.
Rhoddais iddi gangen fedwen,
Beth ddywedodd Menna?
Gyrrodd imi gangen gollen,
Wel, hi wnaeth yn eitha'.
Ond parhaf o hyd i'w hoffi,
Siwr, siwr iawn,
Pe b'ai'n gyrru amdo imi;
Mwyn, mwyn, er ei mwyn,
A fyddai marw er ei mwyn.