Gwaith Ceiriog/Bardd yn ei Awen

Oddi ar Wicidestun
Tros y Garreg Gwaith Ceiriog

gan John Ceiriog Hughes (Ceiriog)

Codiad yr haul

BARDD YN EI AWEN

Mae llawer eraill o ddulliau yn bod ar y mesur hwn, ond nid wyf yn alluog, oddiwrth yr enghreifftiau sydd gennyf, i roi barn nac opiniwn pa un o'r amryw fathau yw y mwyaf dewisol. Y mae y dôn yn ddigon ystwyth ac ufudd, modd bynnag, i addasu ei hun at y cyfan. Efallai

Nad oes faws na dwys fesur
O un baich i hen dôn bur,

mwy nag i awen.


Alaw,—Bardd yn ei Awen

Mae Bardd i ddod ryw ddydd,
A brenin-fardd ein bryniau fydd,
Fe ddaw i Gymru lân;
Ei wlad a glyw ei lef,
A ni a phawb a'i hoffwn ef,
Pan gwyd pen gawr y gân;
Fe aiff i ddwyfol fan,
Yn nghiliau dwfn hen galon dyn:
Am Hedd fe gân o hyd,
Fod angel Hedd yn hel ynghyd,
Enwadau 'r byd yn un.

Fe ddaw y Bardd i'r byd,
A'i gân i ben, O! gwyn eu byd
Y dorf a wêl y dydd;
Pwy wêl y bore gwyn,
Ac heulwen deg cyflawniad hyn,
Y fath gyfundeb fydd!
Daw bardd i fysg ein plant,
I daro tant yn natur dyn;
Am Hedd fe gân o hyd,
Fod angel Hedd yn hel ynghyd
Enwadau 'r byd yn un.