Gwaith Ceiriog/Tros y Garreg

Oddi ar Wicidestun
Maes Crogen Gwaith Ceiriog

gan John Ceiriog Hughes (Ceiriog)

Bardd yn ei Awen

TROS Y GARREG

Pan y bydd llanciau a merched sir Feirionnydd mewn llefydd rhwng Bwlch Llandrillo a Chlawdd Offa, soniant yn fynych am fyned am dro i sir Feirionnydd, tros Garreg Ferwyn a thros y Bwlch. Awgrymwyd y gân hon gan lodes oedd yn myned ag arian i helpu ei mam dalu y rhent am y tŷ bychan lle y ganwyd ac y bu farw ei thad.

Alaw,—Tros y Garreg

Fe ddaw wythnos yn yr haf,
Gweled hen gyfeillion gaf;
Tros y mynydd
I Feirionnydd,
Tros y Garreg acw 'r af.
Ar y mynydd wele hi,
Draw yn pwyntio ataf fi;
Fyny 'r bryn o gam i gam,
Gyda 'm troed fy nghalon lam;
Af ag anrheg
Tros y Garreg
I fy unig anwyl fam.

Fe gaf chware ar y ddôl,
Fe gaf eistedd ar y 'stôl,
Wrth y pentan,
Diddan, diddan,
Tros y Garreg af yn ôl.
Pan ddaw 'r wythnos yn yr haf,
O fel codaf ac yr af,
Fyny 'r bryn o gam i gam,
Gyda 'm troed fy nghalon lam;
Af ag anrheg
Tros y Garreg
I fy unig anwyl fam.